Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Ein Hymrwymiad: Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) rydym wedi cyhoeddi strategaeth ar y cyd ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

AGC ac AGIC yw’r arolygiaethau a’r rheoleiddwyr annibynnol ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Drwy ein gwaith, rydym yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru.

Rydym wedi cyfuno ein profiad a'n gwybodaeth i weithio ar strategaeth ar y cyd a fydd yn cefnogi'r ddau sefydliad. Gyda'n gilydd, rydym yn rhoi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn ac rydym yn anelu at weithredu fel llais y gellir ymddiried ynddo sy’n dylanwadu ar welliannau ac yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru. 

Rydym am helpu i wella mynediad pobl at y gwasanaethau hyn ac ansawdd eu profiad ohonynt. Yn ein barn ni, bydd sicrhau ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.

Fel arolygiaethau a rheoleiddwyr, byddwn yn: 

  • Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig. 
  • Gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ein penderfyniadau. 
  • Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol. Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Darllenwch fwy yn ein strategaeth lawn, drwy'r ddolen isod.