Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Sharon Williams

Darparwraig annibynnol

Pwy ydw i?

Sharon Williams ydw i ac rwy'n Nyrs Gofrestredig sydd wedi gweithio yn y sector cartrefi gofal ers dros 30 mlynedd fel Rheolwr Cartref Gofal.

Beth ydw i'n ei wneud?

Yn ddiweddar, dechreuais mewn rôl newydd fel Rheolwr Ansawdd a Chydymffurfio i'r cartrefi gofal sy'n rhan o'n grŵp, gan helpu ein timau i wella safonau a sicrhau y caiff ein boneddigion a'n boneddigesau ofal da a chyfleoedd i fyw bywyd gweithgar a bodlon.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Y ddau faes sy'n bwysig i fi yw:

  • Sicrhau y caiff pobl eu cefnogi i fentro ac i fwynhau gwneud y pethau y maent yn hoffi eu gwneud
  • Gofal Diwedd Oes er mwyn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel iddyn nhw a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn yn eu bywyd.

Beth sy'n bwysig i fi

Fy mod yn llefaru ar ran ein boneddigion a'n boneddigesau a'r timau sy'n gweithio'n galed yn ein sector i sicrhau y caiff pawb ddewisiadau a'u bod yn byw bywyd i'r eithaf.