Dull AGC o fynd i'r afael â Sefydliadau Corfforedig Elusennol (SCE)
Mae'r nodyn canllaw hwn wedi cael ei ddatblygu i ddarparu cyngor i arolygwyr, darparwyr cofrestredig a sefydliadau ymbarél ynghylch statws Sefydliad Corfforedig Elusennol.
Beth yw SCE?
Yn hanesyddol, byddai darparwyr â statws elusennol yn aml yn sefydlu cwmni cyfyngedig er mwyn rhedeg eu busnes a chofrestru â ni. O ganlyniad, gwnaethant gofrestru â Thŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau. Gwnaeth Deddf Elusennau 2006 greu'r math newydd o endid cyfreithiol, sef Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE).
Sefydliadau elusennol â'u hunaniaeth gyfreithiol eu hunain yw SCEau. Mae ganddynt statws corfforedig sy'n golygu eu bod yn gallu ymrwymo i gontractau yn eu henwau eu hunain ac mae ganddynt atebolrwydd cyfyngedig sy'n diogelu aelodau ac ymddiriedolwyr rhag colledion ariannol. Mae SCEau wedi'u cofrestru â'r Comisiwn Elusennau, ond byddant hefyd yn ymddangos mewn chwiliad o Dŷ'r Cwmnïau.
Yn 2018, gwnaeth deddfwriaeth gyflwyno proses syml i gwmnïau elusennol droi'n SCE wrth gynnal eu statws cyfreithiol ar yr un pryd. Mae'r broses hon yn galluogi'r sefydliad i gadw ei holl asedau a'i rwymedigaethau, heb fod angen trosglwyddo unrhyw beth o'r cwmni i'r SCE.
Beth yw'r effaith ar gofrestru â AGC?
Darparwyr Newydd
Ar gyfer darparwyr newydd, mae'n rhaid i ymgeiswyr sicrhau eu bod yn nodi'n glir y math o endid cyfreithiol y maent yn ei gofrestru. Fel rhan o'r broses gofrestru, bydd AGC yn cynnal archwiliadau gyda Thŷ'r Cwmnïau a'r Comisiwn Elusennau i sicrhau bod yr endid cyfreithiol cywir wedi ei nodi.
Pwy sy'n darparu'r gwasanaeth?
Bydd angen i AGC hefyd fod yn fodlon mai'r person/sefydliad sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yw'r un sy'n ceisio cofrestru. Er enghraifft, bydd AGC yn ystyried pwy sy'n gwneud penderfyniadau allweddol o ran rhedeg y gwasanaeth, fel:
- Pwy sy'n ymrwymo i gontract cyflogaeth gyda staff? Ai unigolyn neu bwyllgor/bwrdd o Ymddiriedolwyr sy'n gwneud hyn?
- Pwy sy'n rheoli'r safle y cynhelir y gwasanaeth ynddo (p'un ai fel tenant neu berchennog)? Ai unigolyn neu bwyllgor ydyw?
- Pan mai unigolyn sy'n ceisio cofrestru, a oes gan yr unigolyn gontract cyflogaeth gyda phwyllgor/bwrdd o ymddiriedolwyr?
- Yn enw pwy y mae'r yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a chyflogai? • Pwy sy'n gyfrifol am unrhyw rwymedigaethau a all godi o bosibl?
Bydd AGC yn ystyried yr atebion i'r cwestiynau hyn (ac unrhyw rai eraill a all fod yn berthnasol o bosibl) wrth bennu pwy sy'n darparu'r gwasanaeth. Pan mai unigolyn sydd wedi gwneud cais i gofrestru, ond bod yr atebion i'r cwestiynau hyn yn datgelu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan bwyllgor neu fwrdd o ymddiriedolwyr, yna bydd angen gwneud cais newydd yn enw'r sefydliad perthnasol.
Gallai methu â nodi'r endid cyfreithiol cywir ar ffurflen gais i gofrestru arwain at oedi wrth gofrestru'r gwasanaeth.
Darparwyr Cofrestredig yn newid eu statws cyfreithiol
Ym mhob sefyllfa, pan fydd darparwr cofrestredig yn ceisio statws fel SCE, mae'n rhaid iddo gysylltu ag AGC. Yn dibynnu ar y math o endid cyfreithiol sydd wedi'i gofrestru â AGC ar hyn o bryd, mae angen gwahanol ganlyniadau a chamau gweithredu mewn perthynas â chofrestru'r darparwr.
Isod, gweler y sefyllfaoedd amrywiol a all fod yn berthnasol a'r camau gweithredu sydd eu hangen:
Unigolyn yw'r person cofrestredig
Gallai'r sefyllfa hon fod yn berthnasol i unigolyn sydd wedi'i gofrestru yn ei rinwedd ei hun, ond sydd hefyd yn rhan o sefydliad fel pwyllgor neu fwrdd o ymddiriedolwyr, neu sydd wedi'i gyflogi ganddo. Os yw'r sefydliad yn newid ei statws cyfreithiol i SCE, bydd angen i AGC ystyried pwy sy'n darparu'r gwasanaeth - yr unigolyn neu'r sefydliad.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r cwestiynau a restrir uchod; pan mai'r unigolyn cofrestredig sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, ni fydd angen gwneud cais newydd i gofrestru.
Pan mai'r sefydliad sy'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth, bydd angen gwneud cais newydd i gofrestru. Bydd angen i'r cais i gofrestru fod yn enw'r SCE ac mae'n rhaid ei gyflwyno o fewn 28 diwrnod i gofrestru'r SCE â'r Comisiwn Elusennau.
Cwmni Cyfyngedig yw'r person cofrestredig
Bydd y sefyllfa hon yn berthnasol i wasanaethau lle mai cwmni cyfyngedig yw'r darparwr cofrestredig, heb statws elusennol, ac sy'n sefydlu SCE i gymryd drosodd darparu'r gwasanaeth.
Bydd gan yr SCE newydd ei endid cyfreithiol ei hun, ac felly bydd angen gwneud cais newydd i gofrestru'r gwasanaeth ag AGC. Mae'n rhaid cyflwyno'r cais hwn o fewn 28 diwrnod i gofrestru'r SCE â'r Comisiwn Elusennau.
Cwmni Elusennol yw'r person cofrestredig
Mae Cwmnïau Elusennol yn cael budd o'r broses syml o drosi'n SCE. Mae'r broses hon yn galluogi'r Cwmni Elusennol i gadw ei enw a'i rif elusen yn ogystal ag unrhyw asedau neu rwymedigaethau.
Gan fod yr endid cyfreithiol yn parhau, nid oes angen gwneud cais newydd i gofrestru'r SCE. Fodd bynnag, mae'n rhaid rhoi gwybod i AGC am y trosiad, a rhoi'r manylion canlynol iddi:
- Cadarnhau enw a rhif elusen
- Cadarnhau cyfeiriad
- Enwau'r holl ymddiriedolwyr
Mae'n rhaid darparu'r wybodaeth hon o fewn 28 diwrnod i gofrestru'r SCE â'r Comisiwn Elusennau.
Sefydliad anghorfforedig yw'r person cofrestredig
Bydd y sefyllfa hon yn berthnasol i wasanaethau lle mai sefydliad anghorfforedig yw'r darparwr cofrestredig, fel pwyllgor neu ymddiriedolaeth elusennol, sy'n trosi'n SCE.
Bydd gan yr SCE newydd ei endid cyfreithiol ei hun ar wahân i'r sefydliad anghorfforedig ac, felly, bydd angen gwneud cais newydd i gofrestru'r gwasanaeth ag AGC. Mae'n rhaid cyflwyno'r cais hwn o fewn 28 diwrnod i gofrestru'r SCE â'r Comisiwn Elusennau.
Ym mhob sefyllfa lle mae angen gwneud cais newydd, gan gymryd bod cais i gofrestru'r gwasanaeth wedi'i gyflwyno o fewn 28 diwrnod, bydd cofrestru'r gwasanaeth yn parhau nes bod y cais newydd wedi'i bennu.
Ble i fynd am gymorth
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chofrestru ag AGC, cysylltwch â'r Tîm Cofrestru ar 0300 790 0126 neu CIWRegistration@llyw.cymru.
Am gyngor ac arweiniad yn ymwneud â SCEau, ewch i wefan y Comisiwn Elusennau (Dolen allanol).