Atal Cofrestru yn Wirfoddol Canllawiau i Ddarparwyr Gwasanaethau Gofal a Chwarae Plant
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i warchodwyr plant a darparwyr gwasanaethau gofal dydd a chwarae gael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ddarparwyr atal eu cofrestriad am gyfnod o amser.
Sut ydw i'n atal fy ngwasanaeth yn wirfoddol?
Os yw'r darparwr cofrestredig am atal ei gofrestriad yn wirfoddol rhaid iddo gyflwyno hysbysiad – “Atal Gwasanaeth yn Wirfoddol” gan ddefnyddio ei gyfrif CIW Ar-lein (Dolen allanol).
Bydd angen i'r darparwr ddarparu manylion ynglŷn â'r rheswm pam ei fod am atal ei gofrestriad ac am faint o amser (dyddiad dechrau a dyddiad gorffen) y maent am atal y gwasanaeth.
Bydd AGC yn ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd ac yn cysylltu â’r darparwr os oes angen rhagor o fanylion.
Darparu gwasanaeth ar ôl cyfnod o ataliad gwirfoddol
Ar ôl cyfnod yr ataliad, nid oes angen cwblhau'r broses gofrestru lawn eto. Fodd bynnag, ni fydd yr ataliad yn cael ei godi nes bod nifer o ofynion wedi'u bodloni.
Rhaid i ddarparwyr ddefnyddio eu cyfrif ar-lein i hysbysu AGC o’u bwriad i atal eu cofrestriad yn wirfoddol, a hefyd eu bwriad i godi ataliad gwirfoddol.
Rhaid rhoi o leiaf pum diwrnod o rybudd er mwyn i'r ddwy broses gael eu hystyried a'u rhoi ar waith. Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau eithriadol lle gellir gweithredu hyn mewn llai na pum diwrnod.
Sut ydw i'n codi'r ataliad gwirfoddol o'm gwasanaeth?
Pan fydd cyfnod yr ataliad gwirfoddol y mae’r darparwr wedi gofyn amdano yn dod i ben, mae’n ofynnol i’r darparwr hysbysu AGC o’i fwriad. Dylid gwneud hyn cyn dyddiad gorffen y cyfnod atal.
Yr opsiynau yw:
- codi'r ataliad ac ailddechrau'r gwasanaeth; neu
- ymestyn cyfnod yr ataliad gwirfoddol, yn cynnwys dyddiad dod i ben newydd.
Er mwyn gwneud hyn rhaid i'r darparwr gyflwyno hysbysiad – “Atal Gwasanaeth yn Wirfoddol” gan ddefnyddio ei gyfrif CIW Ar-lein (Dolen allanol).
Pan fydd darparwr yn penderfynu codi ei ataliad, mae angen cadarnhad ar yr hysbysiad ar-lein bod y gofynion canlynol ar waith cyn y gellir cyflwyno’r hysbysiad:
- Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyfredol (o fewn y tair blynedd diwethaf) addas (gwiriwyd y rhestr wahardd berthnasol) ar waith ar gyfer y person cofrestredig a phawb arall dros 16 oed sy’n byw neu’n gweithio yn y safle cofrestredig
- Mae gan y gwarchodwr plant, neu o leiaf un aelod o staff mewn gwasanaeth gofal dydd sy'n gofalu am blant, gymhwyster Cymorth Cyntaf Pediatrig perthnasol cyfredol (o fewn y tair blynedd diwethaf)
- Mae sicrwydd yswiriant priodol a chyfoes ar gyfer y gwasanaeth
- Mae Datganiad o Ddiben cyfredol ar waith.
Cadarnhad bod y system wresogi yn yr eiddo wedi'i gwirio a'i hardystio'n ddiogel o fewn y 12 mis diwethaf, gan gynnwys tystysgrif Cynllun Profi a Chymeradwyo Offer Gwresogi (HETAS) ar gyfer unrhyw stofiau tanwydd solet neu losgi coed.
Os nad yw’r darparwr yn bwriadu ailddechrau rhedeg y gwasanaeth neu os yw’n bwriadu parhau wedi’i atal, rhaid cyflwyno amrywiad ar-lein i ganslo’r gwasanaeth gan ddefnyddio ei gyfrif CIW Ar-lein (Dolen allanol).
Beth os yw fy ngwasanaeth wedi’i atal yn wirfoddol am dair blynedd neu fwy?
Mae gofynion deddfwriaethol ac arferion gorau ar gyfer darparu gwasanaeth gofal plant a chwarae plant rheoledig yn newid yn barhaus. Ar ôl cyfnod hir o atal, bydd angen i AGC fod yn fodlon bod darparwr yn dal yn addas i barhau i gael ei gofrestru a chynnig gwasanaeth da.
Mae'r broses ar-lein ar gyfer codi ataliad gwirfoddol yr un fath. Fodd bynnag, efallai y bydd ystyriaethau AGC ar gyfer codi’r ataliad ar gyfer gwasanaethau sydd wedi’u hatal am dair blynedd neu fwy yn gofyn am gyflwyno’r canlynol:
Dogfennau
- Polisi Amddiffyn / Diogelu Plant
- Polisi Rheoli Ymddygiad
- Polisi a Gweithdrefn Gwyno
- Asesiadau Risg
Gall arolygwyr ofyn am ddogfennau eraill sy'n briodol i'r gwasanaeth, er enghraifft Polisi Anifeiliaid Anwes os yw'r Datganiad o Ddiben yn nodi bod anifail anwes newydd wedi bod ar y safle ers i'r person cofrestredig fod yn gweithio ddiwethaf.
Yswiriant car – cyfrifoldeb y darparwr cofrestredig yw sicrhau bod ganddo sicrwydd yswiriant digonol ar gyfer unrhyw gerbydau y gallai eu defnyddio fel rhan o'i fusnes.
Proses Person Cymwys
Datganiad meddygol – bydd yn ofynnol i’r person cofrestredig gwblhau hunanddatganiad meddygol AGC ynghylch ei ffitrwydd corfforol a meddyliol i ofalu am blant dan 12 oed.
Rhaid i'r person cofrestredig gwblhau datganiad o addasrwydd ar ei ran ei hun ac ar ran pob person arall dros 16 oed sy'n byw yn y safle
(Gall y person cofrestredig gysylltu ag AGC, i ofyn am y dogfennau uchod.)
Bydd yr arolygydd yn ystyried a oes angen cynnal Cyfweliad Person Cymwys.
Safle
Rhaid i'r person cofrestredig ofyn am restr wirio cyn ymweld â safle AGC a'i chwblhau, a chadarnhau na fu unrhyw newid i'r safle ers iddo fod yn gweithio ddiwethaf.
Os oes gwaith adeiladu sylweddol wedi'i gwblhau ers i'r person cofrestredig fod yn gweithio ddiwethaf, e.e., estyniad i'r eiddo, bydd angen i'r arolygydd weld tystysgrif addasrwydd yn ymwneud ag unrhyw waith adeiladu a wnaed.
Ar gyfer gwasanaethau gofal dydd yn unig:
- Mae angen cadarnhad bod y system drydanol yn yr eiddo wedi'i gwirio a'i hardystio'n ddiogel o fewn y pum mlynedd diwethaf.
- Rhaid cael Asesiad Risg tân addas.
Bydd yr arolygydd yn ystyried a oes angen ymweliad safle.
Beth yw cyfrifoldebau darparwr tra bod ei wasanaeth yn cael ei atal yn wirfoddol?
Yn gyntaf ac yn bennaf – nid yw ataliad gwirfoddol yr un fath â chanslo gwirfoddol.
Mae darparwr sydd wedi’i atal yn wirfoddol yn dal i fod wedi’i gofrestru’n gyfreithiol yn AGC ac mae gan y darparwr gyfrifoldebau o hyd o ran y cofrestriad hwnnw.
Mae darparwr sydd wedi’i atal yn wirfoddol yn parhau i fod yn gyfreithiol gyfrifol am hysbysu AGC o’i fwriadau mewn perthynas â’i statws cofrestru. Rhaid gwneud unrhyw newidiadau i hyn gan ddefnyddio CIW Ar-lein (https://arlein.arolygiaethgofal.cymru/) (Dolen allanol).
O bryd i'w gilydd gall AGC ofyn am ddiweddariad ar ataliad parhaus darparwr neu ofyn iddo anfon gwybodaeth y mae angen ei chydnabod.
Mae'n bwysig bod y darparwr yn ymgysylltu ag AGC ac yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol mewn modd amserol. Gall peidio ag ymgysylltu olygu na all AGC fod yn fodlon bod y person cofrestredig yn parhau i fod yn addas i gael ei gofrestru.
Os na fydd darparwr yn ymgysylltu ag AGC, byddwn yn rhoi'r broses ganlynol ar waith:
- Bydd AGC yn ceisio cysylltu â'r darparwr drwy'r manylion cyswllt personol fwyaf diweddar a ddarparwyd, h.y., rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad cartref. Dros gyfnod o ddau fis, bydd AGC yn ceisio cysylltu ddwywaith yn ysgrifenedig (llythyr/ ebost) a dwywaith dros y ffôn.
- Os na fydd unrhyw ymateb, gall AGC ddilyn y llwybr gorfodi ac anfon Hysbysiad o Fwriad i Ganslo Cofrestriad i'r cyfeiriad mwyaf diweddar a ddarparwyd gan y darparwr. Os na fydd unrhyw ymateb i'r Hysbysiad o fewn 28 diwrnod, byddwn yn anfon Hysbysiad o Benderfyniad. Caiff y cofrestriad ei ganslo ar ôl y 28 diwrnod hwnnw, os na fydd y darparwr yn apelio i'r Tribiwnlys.
Mae goblygiadau difrifol i ganslo, gan gynnwys cael eich anghymhwyso rhag cofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd yng Nghymru.
Hefyd, ni chaiff y person anghymwys weithio gyda gwarchodwr plant na chael ei gyflogi mewn perthynas â darparu gofal dydd yng Nghymru.
Dylech ddweud wrth AGC:
- os byddwch yn symud tŷ;
- os bydd eich manylion cyswllt yn newid – rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref;
- os byddwch yn penderfynu ailgychwyn eich gwasanaeth cyn diwedd y cyfnod atal y gofynnwyd amdano;
- os byddwch yn penderfynu nad ydych am barhau wedi'ch cofrestru mwyach.