Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Arolwg adborth ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhoi eich barn am wasanaethau cartrefi gofal.

I rannu eich adborth am wasanaeth cartref gofal yng Nghymru a phrofiad o'i ddefnyddio, dewiswch o'r adran briodol isod.

Gallwch gwblhau arolygon ar-lein neu drwy eu lawrlwytho o waelod y dudalen hon.

Nid oes angen i chi nodi eich enw na'ch manylion cyswllt, oni fyddwch am wneud hynny, neu os hoffech siarad â ni. Mae eich sylwadau unigol yn gyfrinachol ac ni chânt eu rhannu.

Oes gennych chi bryder brys am wasanaeth? Cliciwch yma i roi gwybod i ni

Arolwg adborth ar eich cartref gofal (Plant a phobl ifanc)

Mae eich barn am sut le rydych yn byw ynddo yn bwysig iawn i ni.

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn dweud wrthym am eich profiad.

Agorwch y PDF ar eich dyfais a'i arbed, cyn nodi'ch adborth. Ni fydd copïau o'r PDF a agorwyd yn y porwr yn arbed eich atebion.

Arolwg adborth ar eich cartref gofal (Oedolion)

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn mynegi eich barn am y gofal rydych yn ei gael yn eich cartref gofal.

Agorwch y PDF ar eich dyfais a'i arbed, cyn nodi'ch adborth. Ni fydd copïau o'r PDF a agorwyd yn y porwr yn arbed eich atebion.

Arolwg adborth i deulu, gofalwyr a ffrindiau pobl mewn cartref gofal

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn mynegi eich barn am y gofal y mae'r aelod o'ch teulu/eich ffrind yn ei gael yn y cartref gofal.

 

Arolwg adborth i staff mewn cartref gofal

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn rhoi eich barn am weithio mewn cartref gofal.

Ffyrdd eraill o roi adborth

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen hon ar-lein, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostio agc@llyw.cymru.
Llun - Iau: 09:00 - 17:00
Dydd Gwener: 09:00 - 16:30
Dydd Sadwrn - Dydd Sul: Ar gau