Gall darparwyr gwasanaethau oedolion a phlant ddechrau cyflwyno eu datganiadau blynyddol
Y dyddiad cau ar gyfer eu cyflwyno yw 31 Hydref 2022.
Mae'r datganiadau blynyddol bellach ar gael i'w cwblhau gan yr unigolion cyfrifol ar gyfer gwasanaethau'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol trwy ddefnyddio ei gyfrif AGC Ar-lein.
Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gyflwyno datganiadau blynyddol byr ar gyfer pob un o'r cyfnodau canlynol, 2018-19, 2019-20, 2020-21, a 2021-22, yn dibynnu ar y flwyddyn gofrestru.
Gwnaethom ysgrifennu at y darparwyr ynghylch hyn ym mis Gorffennaf 2021 a mis Chwefror eleni.
Er mwyn helpu i leddfu’r baich ar ddarparwr, rydym wedi ceisio gwneud y broses hon mor syml â phosibl drwy ddefnyddio AGC Ar-lein a llenwi llawer iawn o’r wybodaeth sy'n ofynnol ymlaen llaw.
Rydym hefyd wedi ymestyn y cyfnod cyflwyno i dri mis er mwyn rhoi mwy o amser i ddarparwyr gwblhau a chyflwyno'r datganiadau blynyddol i ni.
Pwy all gyflwyno'r datganiad blynyddol?
Dim ond yr unigolyn/unigolion cyfrifol neu swyddog(ion) y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r darparwr all gael mynediad at eu datganiad blynyddol, ei gwblhau a'i gyflwyno.
Ni all cynorthwywyr ar-lein gwblhau na chyflwyno'r datganiad blynyddol.
Os ydych yn unigolyn cyfrifol neu'n swyddog sefydliad a heb actifadu eich cyfrif ar-lein, ffoniwch ni ar 0300 7900 126.
Beth sy'n digwydd i'r datganiad blynyddol ar ôl iddo gael ei gyflwyno?
Bydd pob datganiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan maes o law.
Cymorth ac arweiniad
Dyma fideo byr a fydd yn dangos i chi sut i gyflwyno eich datganiad blynyddol ac mae canllawiau ysgrifenedig i'ch cefnogi ar dudalen Cyflwyno Datganiadau Blynyddol ein gwefan.
Fideo: Sut i gwblhau'r datganiad blynyddol
Cwestiynau?
Anfonwch neges e-bost at agc@llyw.cymru.