Diweddariad ar ofynion datganiadau blynyddol a sgoriau arolygu
Diweddariad ar gyfer ein darparwyr cartrefi gofal cofrestredig ar gyflwyno datganiadau blynyddol a chyflwyno sgoriau.
Datganiadau Blynyddol
Rydym ni a Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod darparwyr gwasanaethau yn dal i fod dan bwysau sylweddol oherwydd effaith y pandemig. Er mwyn cynorthwyo'r sector, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau i ohirio’r gofyniad am ddatganiad blynyddol tan fis Hydref 2022.
Yn ogystal, bydd y rheoliadau’n cyfyngu’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y datganiadau blynyddol sy’n ddyledus ym mis Hydref 2022 i’r hyn a nodir ar flaen Deddf 2016. Bydd y dull hwn yn lleihau faint o gynnwys sydd ei angen yn y datganiadau blynyddol yn sylweddol i'r canlynol:
- y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi’i gofrestru i’w darparu;
- y mannau y mae'r darparwr wedi'i gofrestru i ddarparu'r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;
- enw'r unigolyn cyfrifol sydd wedi'i benodi ar gyfer pob gwasanaeth;
- dyddiad cofrestru pob gwasanaeth a lleoliad rheoleiddiedig o'r fath;
- manylion unrhyw amodau eraill ar gofrestriad darparwr y gwasanaeth;
- manylion nifer y bobl y darparwyd gofal a chymorth iddynt gan y darparwr yn ystod y flwyddyn;
- datganiad sy’n nodi sut mae darparwr y gwasanaeth wedi cydymffurfio â gofynion y rheoliadau
Rydym wedi datblygu templed ar-lein a fydd yn rhaglenwi’r rhan fwyaf o’r wybodaeth hon, gan leihau’r baich ymhellach.
Byddwn yn ymgysylltu â chi ymhellach yn ystod y misoedd nesaf i egluro'r trefniadau ymarferol ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol.
Sgoriau arolygu
Mae’r broses o gyflwyno sgoriau ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref wedi’i gohirio ymhellach o fis Ebrill 2022 i fis Ebrill 2023.
Mae hyn yn golygu, o fis Ebrill 2023, y bydd sgoriau tawel yn cael eu cyflwyno ac, yn amodol ar y rheoliadau, bydd sgoriau cyhoeddedig yn cael eu gweithredu o fis Ebrill 2024.
Yn ystod 2023-24, ni fydd sgoriau AGC yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau arolygu ac ni fyddant yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan – rydym yn cyfeirio at hyn fel ‘sgoriau tawel’.
Cynhelir gwerthusiad ar ddiwedd 2023, a fydd yn ein galluogi i asesu cysondeb ein hymarfer wrth gymhwyso sgoriau, yn ogystal ag asesu'r effaith ar ddarparwyr gwasanaethau a'n timau arolygu.