Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 19 Ionawr 2022
  • Newyddion

Atal sgoriau cyhoeddedig dros dro

Rydym wedi penderfynu atal cyhoeddi graddau dros dro yn ein hadroddiadau arolygu ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae.

Rydym yn cydnabod y pwysau presennol ar ddarparwyr a achoswyd gan y pandemig ac rydym yn ymwybodol bod Gweinidogion Cymru wedi caniatáu llacio rhai anghenion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) dros dro.

Daw'r penderfyniad hwn i rym o 19 Ionawr 2022.

Rydym yn parhau i fod yn sicr o werth sgoriau cyhoeddedig wrth gyfleu neges glir am ansawdd y ddarpariaeth ac wrth helpu i hyrwyddo gwelliant. O ganlyniad, byddwn yn adolygu'r penderfyniad hwn yn fanwl ac yn bwriadu ailddechrau cyhoeddi sgoriau eto ym mis Ebrill.