Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Mehefin 2021
  • Newyddion

Bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) yn fyw ar 7 Gorffennaf 2021

Mae'n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae gwblhau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth.

Rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr i roi gwybod iddynt y bydd y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn fyw ar 7 Gorffennaf 2021.

Mae'r Datganiad yn ffurflen ar-lein y mae'n ofynnol i Bersonau Cofrestredig ac Unigolyn Cyfrifol ei chwblhau o dan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 mewn perthynas â monitro cydymffurfiaeth gwasanaeth. Mae'r SASS yn darparu gwybodaeth hanfodol a ddefnyddiwn i gynllunio ein harolygiadau, ac yn ein helpu i gynghori Llywodraeth Cymru am gyflwr y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Nid ydym yn cynhyrchu copi papur o ffurflen y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth mwyach, felly bydd angen cyfrif AGC Ar-lein ar ddarparwyr gofal plant er mwyn cwblhau'r Datganiad pan fydd yn fyw.

Os oes gennych gyfrif AGC Ar-lein eisoes gallwch fewngofnodi, cwblhau a chyflwyno eich Datganiad o 7 Gorffennaf 2021.

Os nad ydych wedi creu cyfrif AGC Ar-lein eto, mae angen i chi weithredu ar frys.

  • ewch i AGC Ar-lein
  • neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4

Sicrhewch eich bod wedi creu eich cyfrif AGC Ar-lein erbyn 2 Gorffennaf 2021.

Cyflwynwch eich Datganiad erbyn 4 Awst 2021.