Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 30 Mawrth 2021
  • Newyddion

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y gofyniad i gyflwyno Datganiadau Blynyddol

Gohirio Datganiadau Blynyddol tan fis Mai 2022.

O dan Adran 10 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau rheoleiddiedig gyflwyno Datganiad Blynyddol ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. 

Dylai datganiadau blynyddol cyntaf pob gwasanaeth rheoleiddiedig fod wedi cael eu cyflwyno ym mis Mai 2020. Er mwyn lleihau'r baich ar ddarparwyr yn ystod y pandemig, gohiriwyd y dyddiad hwn am flwyddyn tan fis Mai 2021. Er mwyn cydnabod yr effaith y mae'r pandemig yn parhau i'w chael ar y sector, caiff y dyddiad hwn ei ohirio am flwyddyn arall tan fis Mai 2022. 

Byddwn yn ymgysylltu â darparwyr eto yn ystod y flwyddyn i ddod i egluro'r trefniadau ymarferol ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol.