Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Telerau ac amodau AGC Ar-Lein

Telerau ac amodau.

Gwybodaeth amdanom ni

Mae www.arlein.arolygiaethgofal.cymru yn borth sy’n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru ar ran Gweinidogion Cymru y mae eu prif gyfeiriad swyddfa yn Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Ynglŷn ag AGC Ar-lein 

Diben AGC Ar-lein yw galluogi darparwyr Gwasanaethau Cofrestredig (fel y diffinnir isod) i ryngweithio ar-lein gydag AGC.

Diffiniadau

Yn y telerau hyn:

“ni” yw Llywodraeth Cymru, yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru, y mae eu prif gyfeiriad swyddfa yn Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

“chi" yw’r unigolyn sy’n defnyddio AGC Ar-lein a/neu sy’n cael mynediad at y Gwasanaethau Ar-lein:

  • ar ei ran ei hun pan fo’r unigolyn yn unig fasnachwr; neu
  • ar ran y busnes neu’r sefydliad sy’n darparu’r Gwasanaeth Cofrestredig perthnasol;

“Cymorth Technegol AGC” yw desg gymorth AGC y gellid cysylltu â hi ar 0300 7900 126 opsiwn 4

“Hawliau Eiddo Deallusol” yw hawlfraint, hawliau sy’n gysylltiedig â neu sy’n darparu diogelwch tebyg i hawlfraint; hawliau o ran cronfeydd data; patentau a hawliau gyda dyfeisiadau; hawliau topograffeg lled-ddargludyddion; hawliau dylunio; nodau masnach; nodau gwasanaeth; hawliau o ran enwau parthau’r rhyngrwyd a chyfeiriadau gwefannau; enwau masnachu, enwau busnes, enwau brand; hawliau trefnu; ewyllys da; gwybod sut; cyfrinachau masnach a hawliau o ran gwybodaeth gyfrinachol a phob hawl eiddo deallusol arall, ym mhob achos, p’un a yw wedi’i chofrestru neu heb ei chofrestru ac mae’n cynnwys pob cais a hawl i wneud cais am a derbyn, adnewyddu neu estyn hawliau i hawlio blaenoriaeth gan, hawliau o’r fath a phob hawl tebyg neu gyfwerth neu fathau o ddiogelwch sy’n bodoli neu a fydd yn bodoli yn awr neu yn y dyfodol, yn unrhyw ran o’r byd

“PIN Cychwyn” yw’r côd wyth digid a ddarperir i chi gennym ni

“Gwasanaethau Ar-lein" yw’r gwasanaethau a gynigir gan AGC Ar-lein o bryd i’w gilydd

“Cyfrif Defnyddiwr” yw cyfrif sydd wedi'i greu ar AGC Ar-lein sy'n bersonol i ddefnyddiwr, ac y gall y defnyddiwr gael mynediad at y gwasanaethau drwyddo

“Unigolyn Cyfrifol” yw’r unigolyn sydd wedi ei enwebu gan sefydliad neu fusnes fel yr “unigolyn cyfrifol” at ddibenion Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 a’r rheoliadau a wnaed o dan Adran 22 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, neu’r unigolyn a benodir gan ddarparwr gwasanaeth.

“Unigolyn Cofrestredig” yw’r unigolyn sydd wedi’i gofrestru dan Ran 2 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 neu Ran 2 Deddf Safonau Gofal 2000; 

“Gwasanaethau Cofrestredig” yw unrhyw wasanaethau y mae angen eu cofrestru ag AGC o dan Ran 2 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 neu Ran 2 Deddf Safonau Gofal 2000.

“Darparwr Gwasanaeth” yw’r person, y sefydliad neu’r busnes sydd wedi’i gofrestru i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig o dan Adran 7 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Derbyn y Telerau ac Amodau Hyn i Ddefnyddwyr

Pan fyddwch yn creu eich Cyfrif Defnyddiwr, byddwn yn gofyn i chi dderbyn a chytuno ar y telerau ac amodau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn, ni fyddwch yn gallu creu cyfrif defnyddiwr na defnyddio AGC Ar-lein i gael mynediad at y Gwasanaethau Ar-lein.

Mae modd cael mynediad at y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg, drwy ddefnyddio'r ddolen Telerau ac Amodau sydd ar y ddewislen ar waelod pob tudalen AGC Ar-lein. 

Newidiadau a Diweddariadau i AGC Ar-lein neu i Delerau ac Amodau'r Defnyddiwr

Mae'n bosibl y byddwn yn gwneud newidiadau neu ddiweddariadau i'r telerau ac amodau hyn, neu i'r gwasanaethau, ar unrhyw adeg.

Byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau, os oes rhai, bob tro y byddwch yn mewngofnodi i AGC Ar-lein, a byddwn yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn derbyn y newidiadau neu ddiweddariadau cyn rhoi mynediad i chi i AGC Ar-lein.

Bydd y telerau ac amodau hyn yn berthnasol i holl newidiadau a diweddariadau  AGC Ar-lein. Os gwneir unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau i'r telerau ac amodau hyn, bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu diwygio fel y bo'n briodol.

Gwneud Cais am Gyfrif Defnyddiwr

Mae'n rhaid i chi gael Cyfrif Defnyddiwr er mwyn defnyddio AGC Ar-lein a chael mynediad at y Gwasanaethau Ar-lein.

Gallwch wneud cais am Gyfrif Defnyddiwr drwy gwblhau’r ffurflen gais Cyfrif Defnyddiwr a darparu'r wybodaeth y gofynnir amdani, gan gynnwys eich PIN cychwyn.

Sut i dderbyn eich PIN Cychwyn: mae PIN Cychwyn wedi'i anfon at bob Unigolyn Cyfrifol a Pherson Cofrestredig sydd wedi’i gofrestru yn y cyfeiriad a gedwir gennym ar gyfer pob unigolyn. Os ydych yn Unigolyn Cyfrifol neu’n Berson Cofrestredig, ac nad ydych wedi derbyn eich PIN Cychwyn neu os ydych wedi ei golli neu fod eich PIN Cychwyn wedi ei ddadactifadu, bydd angen i chi gysylltu â'r Ddesg Gymorth. 

Gallwch ddefnyddio eich PIN Cychwyn unwaith yn unig. Bydd yn cael ei ddadactifadu ar ôl iddo gael ei ddefnyddio.

Rydym yn cadw'r hawl yn ôl ein disgresiwn:

  • i wrthod unrhyw ffurflen gais am Gyfrif Defnyddiwr a anfonir atom; 
  • i ganslo unrhyw Gyfrif Defnyddiwr; neu 
  • i newid statws neu osodiadau unrhyw Gyfrif Defnyddiwr.

Os byddwn yn derbyn eich cais am Gyfrif Defnyddiwr, byddwn yn creu cyfrif i chi ar AGC Ar-lein. Byddwch ond yn gallu cael mynediad i AGC Ar-lein drwy ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.

Wrth wneud cais am Gyfrif Defnyddiwr, rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu bod gennych yr hawl, yr awdurdod a'r gallu i ddefnyddio AGC Ar-lein a'r Gwasanaethau Ar-lein, ac i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn. Rydym yn cadw'r hawl i wahardd neu derfynu eich Cyfrif Defnyddiwr ar unwaith, heb roi rhybudd i chi. 

Wrth ystyried y darperir Cyfrif Defnyddiwr a mynediad at y Gwasanaethau Ar-lein i chi, rydych yn cytuno:

  • i ddarparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn pan ofynnir i chi yn y ffurflen gais Cyfrif Defnyddiwr, neu fel rhan o unrhyw un o'r Gwasanaethau Ar-lein;
  • i'n hysbysu'n syth o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth rydych chi wedi ei darparu i ni, er mwyn cadw'r wybodaeth a gedwir gennym yn wir, yn gywir ac yn gyflawn. 

Enw Defnyddiwr a Chyfrinair

Y cyfeiriad e-bost a ddarperir gennych chi wrth geisio am Gyfrif Defnyddiwr fydd eich enw defnyddiwr. Fel rhan o'r cais am Gyfrif Defnyddiwr, bydd gofyn i chi ddarparu cyfrinair sy'n bodloni ein gofynion. 

Mae'n rhaid i'ch enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fod yn bersonol i chi. Mae'n rhaid i chi gadw eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a dylech gymryd camau rhesymol i'w gwarchod nhw.

Rhaid i chi beidio â rhannu’ch cyfrinair gyda pherson arall, na chaniatáu i neb arall gael mynediad neu ddefnyddio AGC Ar-lein drwy ddefnyddio eich Cyfrif Defnyddiwr chi. Er mwyn osgoi amheuaeth, lle’r ydych yn gweithredu ar ran busnes neu sefydliad, rhaid i chi beidio â rhannu’ch enw defnyddiwr na’ch cyfrinair ag unrhyw unigolyn arall o fewn y busnes neu’r sefydliad hwnnw.

Chi sy'n gyfrifol am yr holl weithgaredd ar AGC Ar-lein a wneir drwy ddefnyddio eich Cyfrif Defnyddiwr chi, p'un ai chi oedd yn ei ddefnyddio ai peidio. Os ydych yn amau bod unrhyw berson arall wedi defnyddio neu yn defnyddio eich Cyfrif Defnyddiwr, mae'n rhaid i chi ein hysbysu yn syth.

Os byddwch yn anghofio neu’n dymuno newid eich cyfrinair, gallwch ailosod eich cyfrinair drwy wasgu ar y ddolen "Rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair" ar dudalen fewngofnodi AGC Ar-lein a darparu eich enw defnyddiwr.

Os byddwch yn anghofio eich enw defnyddiwr, mae'n rhaid i chi gysylltu â'r Ddesg Gymorth.

Cau eich Cyfrif Defnyddiwr

Gallwch wneud cais i gau eich Cyfrif Defnyddiwr drwy gysylltu â'r Ddesg Gymorth.

Manylion Eich Cyfrif

Mae’n bosibl y defnyddiwn y manylion a ddarperir ar eich Cyfrif Defnyddiwr er mwyn cysylltu â chi ynglŷn â'ch defnydd o AGC Ar-lein. Gallwch ddiweddaru'r rhain unrhyw bryd drwy gysylltu â'r Ddesg Gymorth.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth sydd yn eich Cyfrif Defnyddiwr ac a ddarperir gennych, gan gynnwys yn ddigyfyngiad eich manylion cyswllt, yn gywir ac yn gynhwysfawr ac yn gyfredol ym mhob modd, bob amser. Ac eithrio pan fydd newid yn eich gwybodaeth yn gwneud hysbysiad yn ofynnol, gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth trwy fewngofnodi i’ch Cyfrif Defnyddiwr.

Unigolion sy’n Gweithredu ar ran Sefydliad neu Fusnes

Lle’r ydych yn gweithredu ar ran sefydliad neu fusnes, bydd eich gweithredoedd yn rhwymo’r sefydliad neu’r busnes hwnnw. Rhaid i chi weithredu:

  • yn gyfan gwbl o fewn cylch gwaith eich swyddogaeth o fewn y sefydliad neu fusnes neu mewn perthynas â’r sefydliad neu fusnes;
  • o fewn awdurdod y sefydliad neu fusnes perthnasol bob amser;
  • yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan y sefydliad neu’r busnes hwnnw pan fyddwch yn cwblhau a/neu’n cyflwyno unrhyw ffurflenni neu wybodaeth ar ran y sefydliad neu’r busnes (gan gymryd lle y bydd unrhyw gyfarwyddiadau o’r fath yn gwrthdaro â chanllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gyfraith, bydd canllawiau neu gyfraith o’r fath yn cael blaenoriaeth dros unrhyw gyfarwyddiadau o’r fath).

Defnyddio AGC Ar-lein

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth a rhaglenni a phlatfform cyfrifiadur wedi'u ffurfweddu er mwyn cael mynediad i AGC Ar-lein. 

Ac eithrio pan fo angen hysbysu ynglŷn â newid i unrhyw ddata neu wybodaeth, gallwch olygu’r data neu’r wybodaeth drwy fewngofnodi i’ch Cyfrif Defnyddiwr.

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno eich bod chi (neu, fel sy’n ofynnol gan y cyd-destun, y sefydliad neu’r busnes rydych yn gweithredu ar ei ran), drwy gyflwyno unrhyw ffurflen, wybodaeth neu ddeunydd wrth ddefnyddio'r Gwasanaethau Ar-lein:

  • yn datgan ac yn gwarantu bod y fath ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol;
  • y gallwch gael eich dal yn gyfrifol am unrhyw anghywirdebau neu gamgyfleadau sy'n berthnasol i unrhyw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd o'r fath; ac
  • eich bod yn datgan ac yn gwarantu i feddu ar yr awdurdod a’r hawliau, trwyddedau a chaniatâd angenrheidiol i gyflwyno’r ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd at y dibenion y cyfeirir atynt yn y paragraff yn union islaw.

Bydd unrhyw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd a gyflwynir gennych chi wrth ddefnyddio’r Gwasanaethau Ar-lein ond yn cael eu defnyddio gennym ni (neu ein cynrychiolwyr awdurdodedig) at y dibenion y cawsant eu cyflwyno ac i ddilysu bod y wybodaeth yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol.

Fel rhan o ddefnyddio AGC Ar-lein (gan gynnwys gwneud cais am Gyfrif Defnyddiwr), gellir bod yn ofynnol i chi ddangos eich cytundeb, gwneud datganiad o, neu gadarnhau, sefyllfa drwy roi tic mewn blwch neu fewnosod testun. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno eich bod chi, (neu, fel sy’n ofynnol gan y cyd-destun, y sefydliad neu’r busnes rydych yn gweithredu ar ei ran), drwy roi tic mewn unrhyw flwch o'r fath neu fewnosod unrhyw destun, wedi'ch rhwymo i'r fath gytundeb, datganiad neu gadarnhad, neu gynnwys y testun a fewnosodwyd, ac y gallwn ddibynnu ar y fath gytundeb, datganiad, cadarnhad neu destun fel petai wedi ei wneud a'i lofnodi gennych chi yn ysgrifenedig.

Rydym yn cadw'r hawl i ofyn i chi (neu, fel sy’n ofynnol gan y cyd-destun, y sefydliad neu’r busnes rydych yn gweithredu ar ei ran) ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, neu fodloni gofynion ychwanegol i ddiwallu ein hanghenion, ar unrhyw adeg.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag unrhyw ffurflen, gwybodaeth neu ddeunydd a gyflwynwyd gennych, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth.

Diogelwch a Gwarchod rhag Firysau

Er y byddwn yn cymryd camau rhesymol i wirio a phrofi AGC Ar-lein, mae'n rhaid i chi gymryd rhagofalon eich hun i sicrhau nad yw'r broses rydych yn ei defnyddio i gael mynediad i AGC Ar-lein yn eich datguddio i unrhyw risg o firysau, cod cyfrifiadur maleisus neu ffurfiau eraill o ymyrraeth a all niweidio eich system gyfrifiadurol. Mae bob amser yn synhwyrol rhedeg rhaglen gwrth-firws ar unrhyw beth rydych yn ei lawrlwytho o'r we.

Ni ellir gwarantu bod unrhyw drawsyriant data dros y we yn hollol ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i warchod unrhyw ddata neu wybodaeth a ddarperir i ni, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth rydych yn ei thrawsyrru atom. Gan hynny, rydych yn cynnal trawsyriant o'r fath ar eich menter eich hun. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw niwed neu golled sy'n codi drwy ddefnydd o AGC Ar-lein. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, ymyrraeth neu niwed i'ch system gyfrifiadurol neu eich data a achosir drwy ddefnyddio AGC Ar-lein, neu sy'n codi o ganlyniad i ddefnyddio AGC Ar-lein.

Defnydd Derbyniol

13.1 Cewch ddefnyddio AGC Ar-lein at ddibenion cyfreithlon yn unig. Ni chewch:

  • ddefnyddio AGC Ar-lein mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon neu'n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus;
  • defnyddio AGC Ar-lein i anfon, derbyn yn fwriadol, llwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio unrhyw wybodaeth;
    • sy'n gallu bod yn fygythiol, anweddus, niweidiol, difenwol, pornograffig neu achosi gofid;
    • y gall eraill ei hystyried yn rhywiaethol, yn hiliol neu'n dramgwyddus mewn modd arall; neu
    • sy'n gallu tarfu neu dorri ar hawliau eraill mewn unrhyw ffordd;
  • defnyddio AGC Ar-lein i drawsyrru, neu i sicrhau yr anfonir, unrhyw hysbysebu anawdurdodedig neu na ofynnwyd amdano, neu ddeunydd hyrwyddo neu unrhyw ffurf arall o erfyniad tebyg (sbam);
  • cael mynediad neu geisio mynediad i gyfrifon sy'n berchen i ddefnyddwyr eraill AGC Ar-lein, neu i unrhyw wasanaeth, dyfais, data, cyfrif neu rwydwaith arall;
  • trawsyrru yn fwriadol unrhyw ddata neu anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys firysau, ceffylau Caerdroia, ‘mwydod’, ‘bomiau amser’, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadur tebyg sydd wedi'i ddylunio i effeithio'n niweidiol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadur;
  • ymyrryd neu geisio ymyrryd ag unrhyw fesurau diogelwch sy'n berchen i AGC Ar-lein neu'n berthnasol iddo;
  • cael mynediad i, copïo, addasu neu geisio cael mynediad i, copïo neu addasu unrhyw ran o'r feddalwedd gyfrifiadurol ar gyfer AGC Ar-lein; a/neu
  • defnyddio AGC Ar-lein mewn unrhyw ffordd a allai ei niweidio neu amharu ar ddefnydd neb arall ohono.

Mae mynediad anawdurdodedig ac addasiadau anawdurdodedig i AGC Ar-lein yn droseddau dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990, ac felly mae'n anghyfreithlon i achosi niwed iddo yn fwriadol neu i unrhyw ddata neu gyfleuster electronig Llywodraeth Cymru, drwy drawsyriad pwrpasol unrhyw orchymyn neu god gwybodaeth rhaglen.

Argaeledd AGC Ar-lein

Rydych yn cydnabod bod AGC Ar-lein yn wasanaeth Beta. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau beta, gwasgwch ar y ddolen berthnasol ar ddewislen AGC Ar-lein.

Os amharir ar fynediad i AGC Ar-lein neu i unrhyw un o'r gwasanaethau, byddwn yn cymryd camau rhesymol i'w adfer cyn gynted â phosib. Fodd bynnag, gellir gwahardd mynediad i AGC Ar-lein ar unrhyw adeg heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ymyrraeth neu fethiant i wneud AGC Ar-lein ar gael.

Os oes ymyrraeth neu waharddiad dros dro i fynediad at AGC Ar-lein neu i wasanaeth penodol mewn unrhyw ffordd, eich cyfrifoldeb chi ydyw o hyd i gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau amser statudol o ran ffeilio unrhyw ddogfennaeth, gwybodaeth neu gofrestriad, a bydd disgwyl i chi ddefnyddio'r dulliau eraill sydd ar gael er mwyn ffeilio neu gofrestru.

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i AGC Ar-lein neu i unrhyw un o'r gwasanaethau ble ystyrir ei fod yn angenrheidiol gwarchod cyfanrwydd AGC Ar-lein, neu i derfynu darpariaeth y gwasanaethau drwy AGC Ar-lein ar unrhyw adeg. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw ddifrod neu golled sy'n codi o ddefnyddio AGC Ar-lein.

Dolenni i/o wefannau eraill

Am mai gwefan breifat yw AGC Ar-lein, cewch ddarparu dolenni i dudalen hafan AGC yn unig. Nid oes rhaid i chi ofyn caniatâd i roi dolen yn uniongyrchol at dudalen hafan AGC ar yr amod:

  • eich bod yn gwneud hynny mewn modd sy'n deg ac yn gyfreithlon, ac nid yw'n niweidio ein henw da nac yn cymryd mantais ohono;
  • nad ydych yn rhoi dolen mewn modd sy'n awgrymu unrhyw fath o gydgysylltiad, cymeradwyaeth neu arnodiad ar ein rhan ni lle na fydd yn bodoli; a 
  • bod y wefan rydych chi'n rhoi'r ddolen arni yn cydymffurfio ag ysbryd Cymal 13 y telerau ac amodau hyn.

Rydym yn cadw'r hawl i dynnu caniatâd i roi dolen yn ôl heb rybudd.

Mae unrhyw ddolen i wefannau ac adnoddau trydydd parti a roddir ar AGC Ar-lein yn cael ei darparu er gwybodaeth yn unig, ac ni ddylid ei hystyried fel ardystiad o unrhyw fath. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y gwefannau hynny, eu hadnoddau na'r data maent yn eu casglu, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb drostynt na thros unrhyw golledion neu ddifrod a all godi ohonynt.

Ni allwn warantu bod unrhyw ddolenni a ddarperir ar AGC Ar-lein yn gweithio bob tro.

Hawlfraint/Hawliau Perchnogaeth a Pherchnogol

Cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar AGC Ar-lein (heblaw'r Arfbeisiau Brenhinol a logos adrannol neu asiantaethau) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, yn unol ag amodau a thelerau Trwydded Agored y Llywodraeth f3.0 cyhyd â'i fod yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Lle bydd unrhyw eitem hawlfraint y Goron ar AGC Ar-lein yn cael ei hailgyhoeddi neu ei chopïo i eraill, mae'n rhaid nodi tarddiad y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.

Mae'r caniatâd i ddefnyddio cynnwys hawlfraint y Goron ar AGC Ar-lein yn union uwchben yn amodol ar yr adran sy’n dwyn y teitl ‘Defnydd Derbyniol’ ac nid yw'n estyn i:

  • unrhyw enw neu logo ar gyfer neu sy’n berchen i AGC, Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru, neu unrhyw logo neu enw arall ar AGC Ar-lein
  • delweddau ar AGC Ar-lein (y gellid ond eu defnyddio gyda'n caniatâd ysgrifenedig ni ymlaen llaw); ac
  • unrhyw ddeunydd ar AGC Ar-lein sydd wedi'i nodi ei fod yn hawlfraint i drydydd parti. Mae'n rhaid i chi gael caniatâd i ddefnyddio unrhyw hawlfraint trydydd parti gan y trydydd parti yn uniongyrchol.

Bydd unrhyw hawlfraint neu Hawl Eiddo Deallusol arall mewn unrhyw gynnwys neu ddeunydd a gyflwynir gennych chi i ni gan ddefnyddio’r Gwasanaethau Ar-lein yn parhau i fod wedi’i freinio neu ei drwyddedu i chi.  Drwy gyflwyno cynnwys neu ddeunydd, ystyrir eich bod wedi rhoi’r holl drwyddedau hawlfraint anghyfyngedig am ddim angenrheidiol (neu, fel y bo’n briodol, is-drwyddedau) i ni i’n galluogi i ddefnyddio cynnwys neu ddeunydd o’r fath at y dibenion a nodir ym mhedwerydd paragraff ‘Defnyddio AGC Ar-lein’ a’i storio yn unol â pholisi cadw a gwaredu Llywodraeth Cymru, fel y bo’n berthnasol o bryd i’w gilydd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth.

Polisi Cwcis a Phreifatrwydd – Gwybodaeth amdanoch chi a'ch defnydd o AGC Ar-lein

Byddwn yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n Polisi Cwcis a Phreifatrwydd. Wrth ddefnyddio AGC Ar-lein, rydych yn cydsynio i brosesu o'r fath, ac rydych yn gwarantu bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn gywir.

Rhyddid Gwybodaeth

Rydym yn atebol i'r cyfreithiau sy'n llywodraethu mynediad at wybodaeth fel y nodir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall sy'n ymwneud â mynediad at wybodaeth. Er y gellir o bosibl datgelu’r holl wybodaeth rydych yn ei darparu i ni, mae eithriadau i ddatgelu, ac rydym yn ceisio dibynnu ar yr eithriadau hynny lle ystyriwn ei bod yn bosibl. Byddwn, lle bo'n bosibl, yn ymgynghori â chi petaem yn cael cais am y wybodaeth rydych wedi ei darparu i ni. Fodd bynnag, rydych yn cydnabod y gallwn ddatgelu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â chi lle rydym, yn ein disgresiwn llwyr, yn ystyried bod yn rhaid i ni ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth a/neu unrhyw ofyniad statudol arall.

Atebolrwydd

Rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd y wybodaeth a gynhwysir yn y gwasanaethau y ceir mynediad iddynt drwy AGC Ar-lein, ond ni ddylid dibynnu ar y wybodaeth hon yn lle cyngor ffurfiol gennym ni.

Yn amodol ar Gymal 19.3, ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol, ym mha ffordd bynnag, am unrhyw gais, colled neu ddifrod (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, dirwyon, costau a threuliau) os yw'n codi mewn contract, camwedd (gan gynnwys yn ddigyfyngiad esgeulustod) neu ddyletswydd statudol mewn cysylltiad â defnydd neu ddiffyg defnydd AGC Ar-lein, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, colled neu ddifrod sy’n anuniongyrchol neu'n ôl-ddilynol; unrhyw golled neu ddifrod sy'n dod o ddefnydd neu ddiffyg defnydd data, neu lygredd data; colled economaidd; colli elw neu golli ewyllys da.

Nid fydd dim yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio ein hatebolrwydd am:

  • farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod;
  • twyll neu gamgyflead twyllodrus; neu 
  • unrhyw weithred neu esgeuluso cyfrifoldeb arall sydd heb ei gyfyngu dan unrhyw gyfraith berthnasol.

Cyffredinol

Mae AGC Ar-lein a'r wybodaeth, deunyddiau a Gwasanaethau Ar-lein a ddarperir (gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw wybodaeth a deunyddiau trydydd parti) yn cael eu darparu ar sail 'fel y mae' ac 'fel sydd ar gael', heb wneud unrhyw gynrychiolaeth nac ardystiad, a heb warant o unrhyw fath, p'un ai caiff ei fynegi neu ei awgrymu, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r gwarantau a awgrymir o ran ansawdd, dibynadwyedd, addasrwydd at ddiben penodol, didrosedd, cysondeb, diogelwch a chywirdeb boddhaol.

Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir ar AGC Ar-lein yn ddi-ymyrraeth nac yn rhydd rhag gwallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na bod AGC Ar-lein na’r gweinydd sy’n ei roi ar gael yn rhydd rhag firysau nac yn cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb a dibynadwyedd llwyr y deunyddiau.

Heb ragfarn i gymal 5, gellir gwneud hysbysiadau i chi drwy e-bost neu drwy bost arferol, neu drwy arddangos hysbysiadau neu ddolenni i hysbysiadau ar AGC Ar-lein yn gyffredinol.

Os byddwn yn ildio unrhyw hawl sydd ar gael i ni o dan y telerau ac amodau hyn ar unrhyw achlysur, nid yw hyn yn golygu bod yr hawliau hynny yn cael eu hildio’n awtomatig ar unrhyw achlysur dilynol arall.

Os ceir bod unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn anorfodadwy neu'n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sydd ar ôl yn parhau i fod mewn grym llawn er hynny.

Bydd y telerau ac amodau hyn yn llywodraethu eich mynediad i AGC Ar-lein a'r Gwasanaethau Ar-lein, gan wahardd unrhyw delerau ac amodau eraill a gynigir gennych chi.

Cyfraith Lywodraethu

Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdod neilltuedig dros unrhyw gais sy'n codi o ymweliad ag AGC Ar-lein, neu sy’n gysylltiedig â hynny.

Bydd y telerau defnydd hyn, ac unrhyw anghydfod neu gais sy'n codi ym mha ffordd bynnag ohonynt neu mewn cysylltiad â hwy, yn cael eu llywodraethu gan a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

Adborth a Chwynion

Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau, neu os hoffech ddarparu adborth arall ynglŷn â'r porth neu'r Gwasanaethau Ar-lein a ddarperir, gallwch gysylltu â ni drwy gysylltu â'r Ddesg Gymorth.