Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Fynwy
Ym mis Gorffennaf 2022, byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o'r adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion yng Nghyngor Sir Fynwy.
Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Fynwy, hoffem glywed am eich profiadau.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 4 Gorffennaf 2022.
- Arolwg ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)
Gallwch chi hefyd ffonio 0300 7900 126 i dderbyn copi caled.
Bydd ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.