Rydym yn cefnogi Wythnos Gofalwyr (6-12 Mehefin)
Eleni mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar 'sicrhau bod gofalu'n cael ei weld, ei werthfawrogi a'i gefnogi'.
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y DU.
Bydd yr ymgyrch yn dod yn fyw wrth i filoedd o unigolion a sefydliadau ddod at ei gilydd i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau ledled y DU, gan dynnu sylw at bwsigrwydd gofalu.
Mae aelodau ein Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn cynnwys gofalwyr, aelodau teulu pobl sy'n defnyddio gwasanaethau, yn ogystal â'n partneriaid sy'n ymwneud â'n gwaith.
Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:
Mae gofalwyr yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ansawdd bywyd pobl sy’n derbyn gofal, yn aml heb fawr o ddiolch a chydnabyddiaeth. Mae mor bwysig ein bod yn dathlu’r ymroddiad a’r ymrwymiad sydd ynghlwm wrth ofalu am aelod o’r teulu neu ffrind, o ddydd i ddydd. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod pob gofalwr yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, a’i gefnogi wrth iddynt gyflawni’r rolau hanfodol hyn sy’n aml yn anweladwy.
I gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan, ewch i wefan Wythnos y Gofalwyr (Dolen allanol).