Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 25 Mai 2022
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ym mis Mehefin 2022, byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o'r adran gwasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 15 Mehefin 2022.

Gallwch chi hefyd ffonio 0300 7900 126 i dderbyn copi caled.

Bydd ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.