Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Mawrth 2022
  • Newyddion

Adroddiad Monitro Blynyddol ar y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid 2020-21

Canfyddiadau ac argymhellion allweddol o'n hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae’r trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid yn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu gwarchod a'u cynnal, a bod y gofal y maent yn ei dderbyn er eu budd pennaf ac yn cael ei roi yn y ffordd leiaf cyfyngedig.

Mae'r trefniadau diogelu yn gymwys i bobl dros 18 oed nad ydynt yn gallu rhoi cydsyniad i'w triniaeth na'u gofal ac sydd mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu i atal achosion o dorri amodau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Canfyddiadau allweddol 2020-21

  • Cafwyd gostyngiad yn nifer y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu a gafwyd gan gyrff goruchwylio yn 2020-21.
  • O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, bu gostyngiad o 6% yng nghyfanswm nifer y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu i fyrddau iechyd. Nododd tri o’r saith bwrdd iechyd y bu gostyngiad.
  • O gymharu â'r flwyddyn flaenorol, bu gostyngiad o 12% yng nghyfanswm nifer y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu i awdurdodau lleol. Nododd 18 o’r 22 awdurdod lleol y bu gostyngiad.
  • Cafodd y pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar broses asesu’r trefniadau diogelu. Roedd yn rhaid i wasanaethau addasu eu harferion gwaith er mwyn lleihau'r risg a berir gan heintiau. Cafodd nifer o unigolion eu rhyddhau o’r ysbyty neu eu trosglwyddo a thynnwyd ceisiadau o dan y trefniadau diogelu yn ôl cyn iddynt gael eu hasesu.
  • Mae mwyafrif y ceisiadau o dan y trefniadau diogelu yn parhau i fod ar gyfer pobl hŷn, gydag 87% o'r ceisiadau ar gyfer pobl sy'n 65 a throsodd. Mae'r rhan fwyaf o'r ceisiadau o dan y trefniadau diogelu yn parhau i fod gan gartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn, a chan wardiau ysbytai ar gyfer oedolion hŷn.
  • Yn ystod y tair blynedd diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr adolygiadau o dan y trefniadau diogelu a wnaed, a'r cyflwyniadau a wnaed gan Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol.
  • Bu cynnydd yng nghyfran yr awdurdodiadau a gyfeiriwyd i'r Llys Amddiffyn o un flwyddyn i’r llall ar gyfer y cyfnod 2018-21.

Ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i weld yr adroddiad llawn (dolen allanol).