Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Hydref 2021
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi data ar hysbysiadau am farwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19 a ddaeth i law gan gartrefi gofal unigol

Mae'r data yn cynnwys marwolaethau oedolion a oedd yn byw mewn cartrefi gofal a oedd yn gysylltiedig â COVID-19, gan gynnwys achosion a gadarnhawyd ac achosion a amheuwyd.

Rydym wedi cyhoeddi data yn dangos nifer yr hysbysiadau am farwolaethau yn gysylltiedig â COVID-19 a ddaeth i law gan gartrefi gofal unigol i oedolion yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2020 a 30 Mehefin 2021. Mae'r data yn seiliedig ar hysbysiadau a gawsom gan ddarparwyr cartrefi gofal i oedolion am farwolaethau preswylwyr a oedd yn gysylltiedig â COVID-19, gan gynnwys achosion a gadarnhawyd ac achosion a amheuwyd.

Nod y data a ryddhawyd gan AGC, sy'n gyfrifol am reoleiddio gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru, yw rhoi darlun mwy cynhwysfawr o effaith COVID-19 ar gartrefi gofal, y bobl sy'n byw ynddynt, eu teuluoedd a'r staff a fu'n gofalu amdanynt.

Wrth ryddhau'r data, dywedodd ein Prif Arolygydd, Gillian Baranski:

Mae pob hysbysiad o farwolaeth i AGC yn cynrychioli bywyd a gollwyd a theuluoedd a ffrindiau sy'n galaru am eu hanwyliaid. Yn aml, roedd eu tristwch yn fwy dwys oherwydd cyfyngiadau COVID-19 a oedd yn eu hatal rhag bod gyda'u hanwyliaid mor aml, neu am gyhyd ag y byddent wedi'i ddymuno ar ddiwedd eu hoes.

Roedd y staff a fu'n gofalu am y bobl yn eu gofal ac a oedd wedi meithrin cydberthnasau â nhw hefyd yn galaru gan fod y marwolaethau wedi effeithio'n fawr arnynt.  Mae arloesedd a gwydnwch y bobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal yn ysbrydoledig a gwelsom lu o enghreifftiau o ofal ymroddedig, tosturiol ac anhunanol, gan gynnwys staff yn cysgu yn lleoliadau'r gwasanaethau er mwyn lleihau’r risgiau i bobl.

Rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i bawb sydd wedi colli aelod o'r teulu neu ffrind o ganlyniad i feirws COVID-19.  Gofynnwn i chi ddangos tosturi a pharch i'r bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, i'w teuluoedd, ac i'r staff a fu'n gweithio'n ddiflino ac yn anhunanol i ddiogelu pobl, i ofalu amdanynt ac i fynd i'r afael â'r heriau niferus a oedd yn eu hwynebu.

Er mwyn gweld y data a'r cafeatau sy'n gysylltiedig â'r data, cliciwch isod.

 

Microsoft PowerBI (Dolen allanol)