COVID-19: Ein dull o roi sicrwydd
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi datganiad ar ein dull o roi sicrwydd yn ystod ail don pandemig y Coronafeirws.
Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yn eu hwynebu ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i roi sicrwydd ynghylch diogelwch a llesiant y bobl sy'n cael gofal yn ystod pandemig COVID-19. Ledled Cymru, rydym wedi dysgu llawer o'n profiad dros y chwe mis diwethaf ac rydym yn defnyddio hyn i lywio ein dull gweithredu yn ystod yr ail don hon.
Mae ein dull gweithredu yn cael ei adolygu bob wythnos ac mae pob penderfyniad yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn helpu i leihau lledaeniad COVID-19.
Gellir cael gafael ar y datganiad llawn o'r rhestr lawrlwytho isod.
Lawrlwytho dogfennau
- Math o ffeil: pdf