Arolygiad o Wasanaethau Plant: Cyngor Sir Powys
Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Powys.
Gwnaethom arolygu gwasanaethau plant ym Mhowys ym mis Gorffennaf 2017 a nododd bryderon mawr, a chynhaliwyd arolygiad pellach ym mis Hydref 2018.
Gallwch ddarllen adroddiad 2017 yma.
Mae'r adroddiad hwn o arolygiad mis Hydref 2018 yn amlinellu'r datblygiadau a'r gwelliannau a nodwyd gennym, a meysydd lle mae angen gwneud gwelliannau o hyd.
Canfyddiadau
Mae gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i wneud gwelliannau sylweddol mewn meysydd penodol, a pheth gwelliant mewn meysydd eraill. Mae gennym bryderon mawr o hyd ynghylch rhai meysydd ymarfer.
Mae trosiant parhaus y gweithlu a threfniadau dros dro ar gyfer rheolwyr canol wedi bod yn ffactorau allweddol sydd wedi arafu'r broses o wneud newidiadau.
Mae pawb sy'n rhan o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys wedi gweithio'n galed i wella'r gwasanaeth. Mae gwelliannau ers yr arolygiad diwethaf yn cynnwys gwell trosolwg corfforaethol o wasanaethau plant, datblygiad sicrhau ansawdd, gwell mynediad at 'ddrws ffrynt' gwasanaethau plant, ceisiadau gwell am orchmynion llys ac ymweliadau mwy cyson â phlant sy'n derbyn gofal a'r rhai sydd ar y gofrestr amddiffyn plant.
Meysydd o flaenoriaeth i'w datblygu
- Sicrhau bod yna weledigaeth strategol glir i gyflwyno gwasanaeth di-dor a datblygu gweithio ar y cyd ag iechyd, addysg a'r trydydd sector ymhellach er budd plant a theuluoedd
- Datblygu trefniadau comisiynu gwell er mwyn sicrhau lleoliadau addas i blant sy'n derbyn gofal. Mae hyn yn cynnwys gwella'r dewis o leoliadau, lleihau'r nifer o blant sy'n cael eu gosod mewn argyfwng ac yn cael eu gosod heb ddarpariaeth addysgol y cytunwyd arni.
- Sicrhau ymwneud amlasiantaeth cynnar wrth ddiogelu a sicrhau ymateb yn syth i blant sydd mewn perygl o ddioddef camfanteisio rhywiol.
- Sicrhau bod ymchwiliadau trwylwyr i gwynion yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae cynlluniau'r awdurdod lleol i ailstrwythuro gwasanaethau plant, cyflwyno model cydnabyddedig o waith cymdeithasol a llunio strategaeth gydlynol ar gyfer cymorth cynnar a chymorth i deuluoedd. Dylai'r datblygiadau hyn arwain at welliannau pellach.
Camau nesaf
Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol adolygu ei gynllun gwella presennol o fewn ugain diwrnod gwaith o gyhoeddi'r adroddiad hwn. O ganlyniad i'r meysydd o bryder mawr a nodwyd yn yr arolygiad hwn, byddwn yn parhau i fynd ati i fonitro ansawdd y gwasanaethau yn chwarterol. Byddwn yn ystyried arolygiad pellach o wasanaethau plant 12-18 mis o ddyddiad cyhoeddi'r adroddiad hwn.
Dogfennau
-
Arolygiad o Wasanaethau Plant Cyngor Sir Powys , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 471 KBPDF, Maint y ffeil:471 KB