Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

26 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2024 – cynadleddau ansawdd

Bydd y cynadleddau ansawdd cyntaf ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae yn canolbwyntio ar arferion gorau.

Fel rhan o'n nod i wneud mwy i gefnogi lleoliadau i wella, rydym yn cynnal cynadleddau ansawdd blynyddol i rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ac i fwrw ati gyda'n gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion cyffredin sy'n codi yn y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Bydd y rhain yn wahanol i'n digwyddiadau ar-lein i ddarparwyr ddwywaith y flwyddyn a bydd ganddynt agenda ac ymdeimlad gwahanol.

Cynhelir cynadleddau eleni ar-lein ar y dyddiadau ac amseroedd canlynol drwy Microsoft Teams:

  • Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024, 17:30-20:30 (Digwyddiad Saesneg)
  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024, 17:30-20:30 (Digwyddiad Cymraeg)

Bydd dolenni ymuno a manylion pellach am yr agenda yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at y darparwyr cofrestredig maes o law.

Cwestiynau? 

E-bostiwch agc.cyfathrebu@llyw.cymru