Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid – Strategaeth monitro ac adrodd ddrafft
Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar ein strategaeth monitro ac adrodd ddrafft ar gyfer y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid newydd.
Lansiwyd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid ar 17 Mawrth. Gellir dod o hyd i fanylion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac adnoddau ychwanegol ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, ar ei gwefan (Dolen allanol).
Yng Nghymru, bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), ac, ar gyfer lleoliadau addysg, Estyn, yn gyfrifol am fonitro ac adrodd ar y gwaith o weithredu'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid.
Mae ein strategaeth ddrafft yn disgrifio sut y byddwn yn cyflawni ein cyfrifoldebau ar gyfer monitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid. Bydd hyn yn hysbysu Gweinidogion Cymru, a phobl yng Nghymru, am sut mae'r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn gweithio’n ymarferol ac yn helpu i gadw safonau’n uchel.
Rydym yn croesawu eich adborth ar y strategaeth ddrafft.
Sut i ymateb
Rydym wedi datblygu arolwg byr (Dolen allanol) i gasglu eich barn. Mae’r arolwg yn ymdrin â’r tri chwestiwn canlynol:
- A ydych yn meddwl bod y dull o fonitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn glir yn y strategaeth?
- A fydd y dull yn helpu i roi sicrwydd bod y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn cael eu gweithredu'n briodol yng Nghymru?
- A oes unrhyw beth yr ydym wedi'i hepgor ac y dylid ei gynnwys?
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ymateb yw 14 Gorffennaf 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth, neu am ein rôl wrth fonitro ac adrodd ar y Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, cysylltwch â ni.
Dogfennau
-
Strategaeth Monitro DRAFFT ac Adrodd Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 235 KBPDF, Maint y ffeil:235 KB