Newidiadau deddfwriaethol ar gyfer gofal cymdeithasol mewn ymateb i COVID-19
Heddiw gwnaethom e-bostio darparwyr gofal i roi gwybod iddynt am y newidiadau deddfwriaethol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cytuno i gynorthwyo'r sector gofal.
Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol, byrddau iechyd a darparwyr iechyd yn gweithio'n ddiflino er mwyn ymateb i argyfwng presennol COVID-19 a'r pwysau sylweddol maent yn ei wynebu yn y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen. Disgwylir i nifer y bobl y mae angen cymorth arnynt mewn ysbytai ac yn y gymuned gynyddu a bydd effaith sylweddol ar argaeledd staff oherwydd bod pobl yn gorfod hunanynysu neu'n mynd yn sâl eu hunain. Yn y cyfnod eithriadol hwn, bydd angen i'r sector fod yn ystwyth wrth ymateb gan ddarparu capasiti ar fyr rybudd a recriwtio staff ychwanegol er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau.
Yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno – yn amodol ar gytundeb y Cynulliad – i wneud newidiadau deddfwriaethol a all helpu'r sector i ymateb i'r heriau hyn. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- peidio â chyflwyno'r gofyniad am Ddatganiad Blynyddol am flwyddyn, tan fis Mai 2021,
- sicrhau bod modd sefydlu darpariaeth gofal cymdeithasol frys dros dro mewn ymateb i COVID-19 heb fod angen cofrestru, yn amodol ar ofynion penodol,
- diwygio'r gofynion ar gyfer gwiriadau cyn cyflogi ar gyfer staff sydd newydd eu recriwtio er mwyn canolbwyntio ar sicrhau bod darparwyr yn cynnal ac yn cofnodi gwiriadau ac asesiadau risg priodol
- yn ymlacio gofynion DBS ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig i oedolion er mwyn galluogi darparwyr i dderbyn naill ai gwiriad Oedolyn yn Gyntaf clir wrth aros am wiriad manylach llawn gan y DBS, neu DBS cyfredol sy'n llai na thair blwydd oed.
Ceir gwybodaeth bellach am hyn a chwestiynau cyffredin eraill ar gyfer darparwyr gofal a staff gofal ledled Cymru ar ein gwefan.