Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 5 Mawrth 2020
  • Newyddion

Paratoi ar gyfer Datganiad Blynyddol 2020

Yn dilyn adborth yn ein digwyddiadau diweddar i ddarparwyr ym mis Ionawr, rydym wedi cyhoeddi rhestr o feysydd cwestiynau allweddol sydd wedi'u cynnwys yn y Datganiad Blynyddol, sy'n lansio ar 1 Ebrill 2020.

Mae'n bosibl y bydd union eiriad y cwestiynau yn newid yn ystod y broses ddatblygu, ond ni fydd hyn yn wir am y meysydd allweddol sy'n cael eu profi. Noder, bydd cwestiynau sy'n gorffen gyda “(wedi'i ragboblogeiddio)” yn feysydd a fydd yn cael eu ragboblogeiddio â'r wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd ar ein system sy'n ymwneud â'ch cofrestriad.

Er mwyn sicrhau bod eich Datganiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno mewn pryd, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC Ar-lein er mwyn sicrhau bod manylion eich gwasanaeth yn gywir ac yn gyfredol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Datganiad Blynyddol a'r cwestiynau y bydd yn eu cynnwys ar ein tudalen cyflwyno Datganiad Blynyddol ac yn y ddogfen atodedig.