Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cenedlaethol o gymorth i blant anabl a'u teuluoedd

Rydym yn chwilio am farn pobl am y profiadau a roddir i blant anabl a'u teuluoedd gan awdurdodau lleol.

Rydym wrthi'n cwblhau cyfres o arolygiadau, er mwyn adolygu'r trefniadau ar gyfer plant anabl ledled Cymru.

Bydd yr arolygiadau yn amlygu, ac yn ceisio deall y ffordd y mae awdurdodau lleol yn mabwysiadu dulliau ymyrryd yn gynnar, ynghyd â'u defnydd o wasanaethau cyffredinol sy'n hyrwyddo'r defnydd o fodel cymdeithasol anabledd.

Bydd yr arolygiadau'n nodi lle y caiff rhwystrau eu creu i blant anabl ac yn ystyried lle y mae ymarfer yn cefnogi, yn creu ac yn cynnig cydraddoldeb, annibyniaeth, dewis a rheolaeth.

Y camau nesaf

Hyd yn hyn, rydym wedi arolygu gwasanaethau plant yn Rhondda Cynon Taf, Chonwy, Torfaen a Cheredigion.

Caiff ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Cymerwch ran

Os ydych yn rhiant i blentyn anabl, hoffem glywed am eich profiadau.

Cwblhewch ein harolwg ar-lein i rieni (Dolen allanol) a rhowch eich adborth i ni.

Fel arall, gallwch gwblhau fersiwn hawdd ei darllen o'r arolwg, y gallwch ddod o hyd iddi ar waelod y dudalen hon. Lawrlwythwch a chwblhewch yr arolwg, yna e-bostiwch ef yn ôl i AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru.