Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Sut mae’r lleoliad yn datblygu annibyniaeth a gwydnwch ymhlith y plant iau mewn modd mor effeithiol a llwyddiannus

Mae ymarferwyr yn creu amgylchedd cefnogol ac effeithiol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel i archwilio ac arbrofi.

Toddler picking chestnuts in a park

Gwybodaeth am y lleoliad

Caiff Little Acorns at Christ the Word ei weithredu gan Gyngor Sir Ddinbych a chafodd ei sefydlu ym mis Medi 2019 trwy weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Integredig i Blant Little Acorns at the Oak Tree yn Y Rhyl. Mae’n gofalu am hyd at 69 o blant ar unrhyw adeg benodol ac yn cynnig gofal plant fforddiadwy ac o safon i rieni a’u teuluoedd o fewn ethos ffydd yr ysgol. Mae’n darparu gofal ar gyfer plant rhwng 2 ac 12 oed a’r tu hwnt, mewn rhai amgylchiadau – gan ddarparu cysondeb a sefydlogrwydd hyd at, a thrwy gydol, eu blynyddoedd yn yr ysgol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Little Acorns at Christ the Word yn credu bod meithrin annibyniaeth a gwydnwch o oedran cynnar yn hanfodol ar gyfer twf a datblygiad plant. Trwy roi strategaethau ar waith yn gyson ac yn bwrpasol, mae’r plant ieuengaf yn tyfu i fod yn unigolion annibynnol a gwydn, yn barod i wynebu’r heriau sy’n dod i’w rhan. Mae’r lleoliad wedi ymrwymo i barhau i feithrin y rhinweddau hyn ymhlith y plant, gan wybod y bydd o les iddynt ar gyfer llwyddo yn y dyfodol. 

Mae ymarferwyr am i bob un o’r plant allu cyflawni eu potensial dysgu ac maent yn gweithio’n galed i greu amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar lle gall plant wneud ffrindiau a dysgu’n llwyddiannus trwy chwarae. Mae ymarferwyr yn credu bod lles plant yn cael ei gefnogi gan eu gallu i fod yn annibynnol ac yn wydn. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o hunanreolaeth iddynt ac yn datblygu eu hunan-barch a’u hyder.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dyma rai o’r strategaethau allweddol sy’n meithrin annibyniaeth a gwydnwch ymhlith y plant:  

  • Annog plant i wneud penderfyniadau: Mae ymarferwyr yn darparu cyfleoedd i blant wneud eu dewisiadau eu hunain trwy gydol y dydd, p’un a ydynt yn dewis gweithgaredd, yn dewis byrbryd, neu’n penderfynu ble i chwarae. Trwy eu grymuso i wneud y penderfyniadau hyn, mae ymarferwyr yn eu helpu i fagu hyder yn eu galluoedd a dysgu cymryd perchnogaeth o’u dewisiadau. 
  • Hyrwyddo Medrau Datrys Problemau: Mae ymarferwyr yn creu amgylchedd cefnogol ac effeithiol lle mae plant yn teimlo’n ddiogel i archwilio ac arbrofi. Pan fyddant yn wynebu heriau neu rwystrau, mae ymarferwyr yn eu hannog i feddwl am atebion yn annibynnol neu gyda’u cyfoedion. Mae hyn nid yn unig yn eu haddysgu i fod yn wydn yn wyneb anawsterau, ond hefyd yn datblygu eu medrau datrys problemau. 
  • Meithrin Medrau Hunangymorth: Mae ymarferwyr yn annog plant i wisgo’u cotiau eu hunain, sychu eu trwynau eu hunain, golchi eu dwylo’n ofalus, arllwys eu diod eu hunain amser byrbryd a thacluso ar ôl eu hunain. Maent yn mynd ati i annog plant i ymgymryd â thasgau sy’n briodol i oedran yn annibynnol. Trwy ddatblygu’r medrau hunangymorth hyn, mae plant yn cael ymdeimlad o gyflawni ac yn dysgu eu bod yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain. 
  • Dathlu Ymdrech a Dyfalbarhad: Mae staff yn canmol y plant am eu hymdrechion a’u dyfalbarhad, yn hytrach na chanolbwyntio ar y canlyniad terfynol yn unig. Trwy gydnabod eu gwaith caled a’u penderfyniad, maent yn helpu meithrin meddylfryd twf ymhlith y plant, gan eu haddysgu bod camgymeriadau yn gyfleoedd i ddysgu a thyfu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae effaith y strategaethau hyn wedi bod yn sylweddol. Mae ymarferwyr yn gweld y plant yn dangos annibyniaeth gyson ac yn datblygu medrau hunangymorth heb lawer o ymyrraeth gan oedolyn. Maent yn arsylwi plant yn cydweithio â’u cyfoedion ac yn cefnogi ei gilydd, gan ddangos eu hyder a’u galluoedd newydd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymarferwyr yn rhannu arferion da â darparwyr gofal plant eraill o fewn yr awdurdod lleol trwy ymweld â lleoliadau, cyfarfodydd a hyfforddiant. Eu nod yw ysbrydoli a chefnogi lleoliadau gofal plant eraill i feithrin annibyniaeth a gwydnwch ymhlith eu plant ieuengaf.