Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Pwy ydw i?
Stuart Davies ydw i ac ar hyn o bryd, rwy'n rheolwr cofrestredig sy'n goruchwylio gwasanaethau gofal cymunedol. Mae gen i dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anableddau corfforol a/neu anableddau dysgu, a rheoli cartrefi preswyl, cartrefi nyrsio a gofal cymunedol bellach.
Beth ydw i'n ei wneud?
Rwy'n ddigon ffodus fy mod wedi cael cyfle i weithio yn Efrog Newydd gyda phlant ag anableddau dysgu, ac oedolion ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol. Gweithiais hefyd fel gwirfoddolwr yn Ne Affrica yn gweithio mewn ysgol anghenion arbennig am 4 mis.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
Y prif ffactorau sy'n fy ysgogi yn fy ngwaith yw cydraddoldeb, cynhwysiant a darparu gofal a chymorth o ansawdd i'r bobl hynny rydym yn eu cefnogi, ynghyd â thegwch a pharch at staff gofal. Rwyf hefyd yn rhan o banel Addasrwydd i Ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn y gorffennol, bûm yn sylfaenydd ac yn ymddiriedolwr elusen. Diben yr elusen honno oedd codi arian a rhoi cymorth i blant agored i niwed yng ngwledydd y Trydydd Byd.
Beth sy'n bwysig i fi
Y tu allan i'r gwaith, rwy'n treulio amser gydag aelodau fy nheulu. Rwy'n byw gyda fy mhartner, ein merch 7 oed, ci a chath! Fy mhrif ddiddordebau yw chwaraeon. Rwy'n hoffi gwylio'n bennaf ond rwy'n dal i roi cynnig ar chwarae criced ac yn ddiweddar, dechreuais chwarae rygbi cyffwrdd. Rwyf wrth fy modd â cherddoriaeth hefyd, ond gwrando nid canu offerynnau!