Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y Cyd 2024–2028
Rydym am helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bawb fynediad cyfartal at wasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant o ansawdd da ledled Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Ein hymrwymiad
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi dod ynghyd i gyhoeddi strategaeth ar y cyd sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
AGC ac AGIC yw’r arolygiaethau a’r rheoleiddwyr annibynnol ar gyfer gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Drwy ein gwaith, rydym yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn sicrhau llesiant pobl Cymru. Mae AGIC ac AGC wedi dod at ei gilydd i gyfuno ein profiad a’n gwybodaeth er mwyn gweithio ar strategaeth ar y cyd sy’n cefnogi’r ddau sefydliad.
Gyda'n gilydd, rydym yn rhoi pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn ac rydym yn anelu at weithredu fel llais y gellir ymddiried ynddo sy’n dylanwadu ar welliannau ac yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru.
Rydym am helpu i wella mynediad pobl at y gwasanaethau hyn ac ansawdd eu profiad ohonynt. Yn ein barn ni, bydd sicrhau ffocws cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith yn ein helpu i gyflawni'r nod hwn.
Fel adrannau o fewn Llywodraeth Cymru, cawn ein harwain gan Gynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb 2024 - 2028 Llywodraeth Cymru o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac rydym yn gweithio tuag at gefnogi'r gwaith o'i gyflawni. Bydd y strategaeth ar y cyd yn ategu cynlluniau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, a bydd yn ceisio cyd-fynd â chynlluniau sydd eisoes yn bodoli a gwneud cysylltiadau rhyngddynt (megis Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (Dolen allanol) a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru (Dolen allanol) er enghraifft), gan ymhelaethu ar groestoriadedd bywydau a phrofiadau pobl.
![Delwedd baner yn dangos Alun Jones Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Gillian Baranski Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru](/sites/default/files/inline-images/ciw%20-%20joint%20EDI%20strategy%20-%20HTML%20PDF%20-%20banner%20image%20-%20Chief%20Inspectors.png)
Dywedodd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, Gillian Baranski:
Gyda'r strategaeth hon, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i herio ein hunain a’r sectorau rydym yn gweithio gyda nhw, i fod yn fwy cyfartal, yn fwy amrywiol ac yn fwy cynhwysol yn y ffordd rydym yn gweithio a’r ffordd y caiff gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu.
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones:
Ni ddylai anghydraddoldeb chwarae unrhyw ran yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio na’u darparu. Rydym yn cydnabod y rôl bwysig y mae ein sefydliadau yn ei chwarae o fewn y sectorau hyn a natur bellgyrhaeddol y ddau faes i gynifer o bobl ledled Cymru. Byddwn yn nodi ac yn herio anghydraddoldebau mewn gwasanaethau ble bynnag y byddwn yn dod o hyd iddynt, er mwyn sicrhau canlyniadau tecach a gwell i bobl.
Ein hamcanion strategol
Fel arolygiaethau a rheoleiddwyr, byddwn yn:
- Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig.
- Byddwn yn gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith. Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o brofiadau pobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig er mwyn llywio ein penderfyniadau.
- Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol. Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Nodau
Bydd ein strategaeth yn cynnig cyfleoedd newydd er mwyn helpu i leihau anghydraddoldebau mewn gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
Blaenoriaethau yw'r tri amcan strategol, a'u nod yw helpu i sicrhau cydraddoldeb i:
- Bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
- Pobl sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
- Darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal rydym yn eu rheoleiddio.
- Ein gweithlu ein hunain.
Ymgysylltu
Drwy'r strategaeth hon, rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys y rhai â phrofiad bywyd.
Bydd ein dull ymgysylltu yn seiliedig ar y canlynol:
- Dweud wrth bobl am yr hyn sydd wedi digwydd ar ôl iddynt rannu eu barn â ni;
- Cydnabod bod angen darparu cyfleoedd i gymryd rhan a'u hwyluso; a
- sicrhau y gall pobl rannu eu barn mewn ffordd hawdd a hygyrch.
Sut y byddwn yn mesur llwyddiant
Lluniwyd y dangosyddion llwyddiant ar gyfer pob amcan i gyd-fynd â'n strategaethau sefydliadol unigol. Mae'n bosibl y byddwn yn adolygu ein cynnydd cyn 2028, ac yn diwygio'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni ein hamcanion.
Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd o ran cyflawni'r amcanion a amlinellir yn y strategaeth hon drwy ein hadroddiadau blynyddol unigol.
Cysylltu amcanion â chamau gweithredu
Rydym wedi nodi camau gweithredu i ddangos sut y byddwn yn cyflawni pob amcan.
Datblygwyd y camau gweithredu hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac yn dilyn y cyfnod hwnnw, drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac unigolion yn ein sefydliadau.
Ein taith
Sefydlodd AGIC ac AGC grŵp Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar y cyd yn 2022, ac mae'r grŵp wedi gweithio i archwilio cryfderau a gwendidau'r dulliau a ddefnyddir gan y ddau sefydliad i sicrhau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chydweithio i fyfyrio ar y broses o ddatblygu blaenoriaethau strategol drafft a'i llywio.
Ymgysylltodd y grŵp hyrwyddwyr â Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid AGIC mewn perthynas â'r broses o ddatblygu'r strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae aelodau'r Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig. Nod y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid yw datblygu a meithrin ein dealltwriaeth o gymunedau amrywiol, gan weithio tuag at nod a rennir o lywio gwelliannau ym maes gofal iechyd.
Gwnaethom hefyd ymgynghori â Bwrdd Cynghori Cenedlaethol AGC sy'n rhoi llais i bobl o ran y ffordd y caiff gwaith AGC ei gyflawni. Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan aelod annibynnol ac mae'n cynnwys amrywiaeth o bobl y mae AGC yn gweithio gyda nhw, gan gynnwys dinasyddion. Mae'r Bwrdd yn rhoi cyngor ac argymhellion ar sut i wella gwasanaethau gofal ar gyfer pobl yng Nghymru, drwy roi trefniadau rheoleiddio, arolygu ac adolygu gwell ar waith. Mae'r grwpiau hyn wedi darparu adborth gwerthfawr ac wedi helpu i fireinio ein hamcanion ymhellach.
Aeth y ddwy arolygiaeth ati i ymgynghori'n fewnol â'n staff hefyd drwy amrywiaeth o ddulliau er mwyn sicrhau eu bod yn rhan o'r broses o nodi'r camau gweithredu y mae angen i ni eu cymryd i gyflawni ein hamcanion strategol a sut y byddwn yn gwybod ein bod wedi cyflawni ein nodau drwy fesurau llwyddiant.
Y dyfodol
Nod y strategaeth hon yw sbarduno gwelliannau a dangos ein hymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn mynd i'r afael â'n cyfrifoldebau cymdeithasol fel rheoleiddwyr ac arolygiaethau i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar ofal o ansawdd da.
Bydd y strategaeth hon yn annog gwell gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i lywio ein gwaith rheoleiddio, arolygu a sicrwydd. Byddwn, yn ein tro, yn fwy gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn eu deall yn well, a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wella'r gofal a ddarperir i'n cymunedau. Drwy ein camau gweithredu a amlinellir yn y strategaeth hon, bydd gennym ddealltwriaeth well o brofiadau iechyd a gofal cymdeithasol pobl o bob cefndir, ac yn gallu adlewyrchu llais y bobl yn ein gwaith yn well.
Bydd y strategaeth ar y cyd hefyd yn gwella cysylltiadau a phrosesau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys arferion da i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant ledled Cymru.
Amcan 1
Cryfhau'r ffocws ar gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith a lle byddwn yn dod o hyd i anghydraddoldebau byddwn yn eu herio ac yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwn yn sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'n gwaith, er mwyn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant eu darparu i bobl sy'n rhannu un neu fwy o'r nodweddion gwarchodedig.
Cam gweithredu
1.1 Byddwn yn sicrhau y caiff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu hymgorffori drwy ein gwaith, gan gynnwys yn ein dulliau i geisio sicrwydd gan ddarparwyr gofal iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.
1.2 Byddwn yn adolygu ein canllawiau a'n prosesau cofrestru i ddarparwyr, er mwyn sicrhau bod mwy o ffocws ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
1.3 Byddwn yn adolygu ac yn cryfhau ein prosesau er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n rhannu pryderon â ni yn gallu darparu gwybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth.
1.4 Byddwn yn adrodd ar ganfyddiadau arolygiadau a sicrwydd mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ffordd ragweithiol er mwyn sicrhau y caiff arferion da eu rhannu ac i herio achosion o wahaniaethu y byddwn yn dod ar eu traws.
Amcan 2
Byddwn yn gwella ein trefniadau ar gyfer ymgysylltu â chymunedau amrywiol er mwyn rhoi llais a dylanwad cryf iddynt yn ein gwaith. Byddwn yn atgyfnerthu ein dealltwriaeth o brofiadau bywyd pobl mewn grwpiau â nodweddion gwarchodedig a heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gydnabod pwysigrwydd croestoriadedd.
Cam gweithredu
2.1 Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad ein grwpiau cynghori rhanddeiliaid i lywio ein gwaith a dylanwadu arno, yn ogystal ag atgyfnerthu cysylltiadau â rhanddeiliaid allweddol, drwy grwpiau cynrychioliadol, er mwyn cael gwybodaeth newydd ganddynt am eu profiadau.
2.2 Byddwn yn adolygu ein hadnoddau ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd i sicrhau ein bod yn defnyddio'r dulliau mwyaf priodol a hygyrch.
2.3 Byddwn yn archwilio ein llwyfannau digidol, gan gynnwys ein gwefan gyhoeddus, er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch.
Amcan 3
Datblygu ein sefydliadau fel eu bod yn gynhwysol ac yn gynrychioliadol. Byddwn yn datblygu gweithlu mwy amrywiol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn helpu aelodau ein gweithlu i lwyddo ac i ffynnu beth bynnag fo’u cefndir, mewn gweithleoedd teg a chynhwysol. Byddwn yn buddsoddi i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ein staff ac yn creu diwylliannau dysgu i’n galluogi i werthuso a herio ein dealltwriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Cam gweithredu
3.1 Byddwn yn sicrhau y caiff cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu cynnwys mewn hyfforddiant i bob aelod newydd o staff yn ystod ei hyfforddiant sefydlu, ac yn barhaus i'r holl staff presennol.
3.2 Byddwn yn sicrhau bod ein strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn annog diwylliant cynhwysol a bod yn lle diogel i godi materion.
3.3 Byddwn yn defnyddio ein hadnoddau cynllunio i gynnwys a hyrwyddo diwrnodau a mentrau ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
3.4 Byddwn yn atgyfnerthu ein prosesau a'n gofynion recriwtio er mwyn sicrhau ein bod yn denu ac yn cadw gweithlu amrywiol a chynrychioliadol.
3.5 Byddwn yn sicrhau bod ein gwaith yn gyson â strategaethau a dulliau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, er mwyn rhannu arferion da, sicrhau cysondeb ac atgyfnerthu ein hymwybyddiaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.