Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Esbonio’r mathau o wasanaethau

Gwasanaethau lleoli oedolion

Mae gwasanaeth lleoli oedolion yn lleoli hyd at dri oedolyn gydag unigolyn, sy'n darparu llety a gofal a chymorth i'r oedolyn/oedolion yng nghartref yr unigolyn.

Gwasanaethau cartrefi gofal

Mae gwasanaeth gofal cartref yn darparu llety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i unigolyn/unigolion oherwydd eu bod yn agored i niwed neu mewn angen.

Gallant ddarparu un neu fwy o'r gwasanaethau canlynol:

  • Cartref gofal i oedolion, gyda nyrsio
  • Cartref gofal i oedolion, gyda gofal personol
  • Cartref gofal i blant, gyda nyrsio
  • Cartref gofal i blant, gyda gofal personol
  • Darpariaeth ar gyfer anableddau dysgu
  • Darpariaeth ar gyfer iechyd meddwl

Gofal Dydd Plant

Gwarchodwr plant 

Person sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gofal yn ei gartref ei hun i nifer penodol o blant o dan 12 mlwydd oed.

Crèche

Darparu gofal dydd achlysurol i blant o dan 12 mlwydd oed.

Gofal dydd llawn  

Darparu gofal dydd i blant o dan 12 mlwydd oed am bedair awr neu fwy y dydd, y tu allan i'r cartref. Mae enghreifftiau yn cynnwys meithrinfeydd, canolfan i blant, rhai canolfannau teuluol a gofal cofleidiol.

Gofal y tu allan i'r ysgol

Darparu gofal i blant tair blwydd oed neu'n hŷn am fwy na dwy awr y dydd. Mae enghreifftiau yn cynnwys clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau a gwersylloedd haf.

Gofal dydd sesiynol

Darparu gofal dydd i blant o dan 12 mlwydd oed am bedair awr y dydd, y tu allan i'r cartref. Fel arfer, defnyddir y gwasanaeth gan blant tair i bum mlwydd oed yn hytrach na babanod neu blant bach, er bod rhai gwasanaethau'n derbyn plant dwy flwydd oed.

Darpariaeth chwarae mynediad agored

Galluogi plant i chwarae, dysgu, datblygu a chymysgu â phlant eraill mewn amgylchedd diogel, heb oruchwyliaeth rhieni. Mae enghreifftiau yn cynnwys canolfannau chwarae meddal neu gynlluniau chwarae.

Gwasanaethau plant

Gwasanaethau mabwysiadu

Asiantaeth sy'n asesu, paratoi a chymeradwyo mabwysiadwyr posibl, sydd am ddarparu bywyd sefydlog i blant.

Gwasanaethau maethu

Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu amrediad o leoliadau i blant a phobl ifanc rhwng 0-18 mlwydd oed, nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol ac sydd yn 'derbyn gofal' gan yr awdurdodau lleol. Cânt eu gweithredu gan yr awdurdodau lleol ac asiantaethau maethu annibynnol.

Canolfannau preswyl i deuluoedd

Canolfannau lle y mae rhieni yn cwblhau asesiad preswyl o'u gallu i ofalu am eu plant mewn modd diogel. Fel arfer yn cael ei drefnu gan yr awdurdod lleol neu ar gais y llysoedd.

Ysgolion preswyl

Ysgolion Preswyl

Mae ysgolion preswyl yn darparu addysg a llety i blant oedran ysgol yn ystod y tymor. Gall plant fynychu bob dydd, ond mae eraill yn byw yn yr adeilad yn ystod tymor yr ysgol, ac yn derbyn gofal y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys ar y penwythnosau, gan aelodau o staff yr ysgolion preswyl.

Colegau addysg bellach

Gall colegau addysg bellach ddarparu llety i fyfyrwyr er mwyn iddynt fyw ar y safle tra eu bod yn astudio.  Maent wedi cofrestru â ni os darperir llety i fyfyrwyr sydd o dan 18 mlwydd oed.

Ysgol arbennig breswyl

Mae ysgolion arbennig preswyl yn cynnig lleoliadau preswyl i ddisgyblion sydd ag anableddau dysgu a phroblemau ymddygiad cymedrol. Efallai bod y disgyblion wedi cael eu gwahardd o'r ysgol brif ffrwd, neu wedi ei chael yn anodd mynychu’r ysgol,, a gallent fod yn destun  datganiad anghenion addysgol arbennig.

Gwasanaeth llety diogel

Lle diogel i bobl ifanc o 12-17 mlwydd oed, sydd wedi cael eu lleoli yno gan y llysoedd oherwydd ymddygiad tramgwyddus neu oherwydd eu bod yn berygl sylweddol i'w hunain neu i eraill yn y gymuned.

Gwasanaeth cymorth cartref

Darparu (neu wneud trefniadau i ddarparu) gofal a chymorth i bobl nad ydynt yn gallu ei ddarparu drostynt eu hunain oherwydd eu bod yn agored i niwed neu mewn angen, a chaiff ei ddarparu i'r person hwnnw lle bynnag y bo'n byw.

Byw gyda chymorth

Gan amlaf, rhennir llety byw gyda chymorth, ond gall hefyd fod yn dŷ unigol lle y darperir gofal a chymorth i bobl fel rhan o'r cymorth sydd ei angen arnynt i fyw yn eu cartref eu hunain. Caiff gofal personol ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref, o dan drefniadau cytundebol ar wahân i'r rheiny ar gyfer tŷ'r person hwnnw.