Sarah Sharpe
Croesawu amrywiaeth: Taith gwarchodwr plant tuag at greu amgylchedd gwrth-hiliol.
Cefndir
Mewn tref fach yng Nghymru, mae gwarchodwr plant cofrestredig wedi trawsnewid ei lleoliad i greu esiampl ardderchog o amgylchedd cynhwysol a gwrth-hiliol, gan ddangos pŵer dysgu parhaus a meddwl agored wrth ddarparu addysg blynyddoedd cynnar.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Ar ôl cwblhau hyfforddiant DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth), cymerodd y gwarchodwr plant hwn gamau rhagweithiol er mwyn creu amgylchedd mwy cynhwysol. Aeth ati i wneud y canlynol:
- ailasesu ac amrywio ei hadnoddau, gan gynnwys llyfrau a theganau
- cyflwyno pensiliau lliw croen a doliau rhyngwladol dilys
- creu arddangosfeydd sy'n dathlu amrywiaeth
- cyflwyno Tirion, tedi rhywedd-niwtral â mewnblaniad yn y cochlea
- gosod drychau o gwmpas y lleoliad i ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth ymhlith y plant
- cynnal trafodaethau agored am wahaniaethau a chynwysoldeb
- rhoi hyfforddiant ar waith i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
Mae'r astudiaeth achos hon yn pwysleisio pŵer datblygiad proffesiynol a'r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar leoliadau'r blynyddoedd cynnar. Drwy groesawu arferion gwrth-hiliol a hyrwyddo amrywiaeth, mae'r gwarchodwr plant hwn wedi creu amgylchedd lle gall y plant ffynnu, dysgu, a datblygu sgiliau hanfodol i greu cymdeithas fwy cynhwysol.
Effaith
- mae'r plant bellach yn teimlo'n gyfforddus wrth ofyn cwestiynau am wahaniaethau
- maent yn bwrw ati i ddathlu amrywiaeth ymysg ei gilydd
- mae'r lleoliad yn hyrwyddo empathi, tosturi, a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
- mae'r plant yn datblygu sgiliau i addysgu eraill am gynwysoldeb
- mae'r gwarchodwr plant wedi meithrin hyder wrth ymdrin â sgyrsiau anodd
- mae'r amgylchedd bellach yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Dogfennau
-
Ymarfer gwerth ei rannu Sarah Sharpe , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 491 KBPDF, Maint y ffeil:491 KB