Polisi Diogelu
Mae'r polisi hwn yn disgrifio'r ffordd rydym yn helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio mewn ffyrdd eraill pan fyddant yn cael gofal a chymorth neu pan fydd angen gofal a chymorth arnynt.
1. Cyflwyniad
Mae'n adlewyrchu ein dyletswyddau o dan y gyfraith a'n hymrwymiad, fel rheoleiddiwr ac arolygiaeth gofal cymdeithasol a gofal plant, i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Ceir disgrifiad llawnach o'n gweithdrefnau yn ein canllawiau ymarfer mewnol ar ddiogelu i staff Arolygiaeth Gofal Cymru.
2. Y fframwaith cyfreithiol
Y fframwaith cyfreithiol ar gyfer cadw oedolion a phlant yn ddiogel yng Nghymru pan fyddant yn cael gofal a chymorth, neu pan fydd angen gofal a chymorth arnynt, yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Dolen allanol), Deddf Plant 1989 (Dolen allanol), a chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar ddiogelu o dan Ddeddf 2014 (Dolen allanol). Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru (Dolen allanol) yn nodi manylion y rolau a'r cyfrifoldebau sy'n hanfodol i ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
O ran diogelu, mae Deddf 2014 a'r canllawiau statudol ategol yn defnyddio'r cysyniad o unigolyn yn wynebu risg.
Mae Deddf 2014 yn diffinio oedolyn sy'n wynebu risg fel “oedolyn: sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, y mae arno anghenion am ofal a chymorth..., nad yw’n gallu, o ganlyniad i’r anghenion hynny, amddiffyn ei hun rhag cael, neu’r risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.” Mae'r Ddeddf yn disgrifio'r termau camdrin ac esgeulustod, ac mae'r canllawiau statudol yn rhoi rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau ar gyfer y ddau derm (paragraffau 24-26).
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal ymholiadau a phennu dull gweithredu os oes sail resymol dros gredu bod oedolyn o fewn ei ardal yn oedolyn sy’n wynebu risg Trafodir ystyr “sail resymol dros gredu” yn y canllawiau statudol (paragraff 83).
Mae Deddf 2014 yn diffinio plentyn sy'n wynebu risg fel “plentyn: sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ddioddef mathau eraill o niwed, y mae arno anghenion am ofal a chymorth”. Os bydd awdurdod lleol yn nodi bod plentyn yn wynebu risg, neu os caiff adroddiad o blentyn yn wynebu risg ac os bydd ganddo sail resymol dros gredu bod plentyn “yn dioddef, neu yn debygol o ddioddef, niwed sylweddol”, mae'n ofynnol iddo, o dan adran 47 o Ddeddf 1989, wneud yr ymholiadau sydd eu hangen i bennu dull gweithredu i ddiogelu neu hybu llesiant y plentyn.
3. Ein cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu
3.1 Ein hegwyddorion ar gyfer diogelu
Mae sicrhau diogelwch, llesiant a hawliau pobl wrth wraidd ein gwaith. O ganlyniad i hyn, mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus, yn ymatebol ac yn rhagweithiol mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelu.
- Rydym yn wyliadwrus ynghylch diogelwch a llesiant pobl pan fyddwn yn cynnal arolygiad a phan fydd pobl yn cysylltu â ni i rannu eu pryderon.
- Rydym yn ymatebol pan fyddwn yn cael gwybodaeth am faterion sy'n peri pryder. Rydym yn gwneud gwaith dilynol mewn perthynas â gwybodaeth ac yn cysylltu ag asiantaethau eraill, gan gyfeirio materion at yr awdurdod lleol a'r heddlu lle y bo angen.
- Rydym yn rhagweithiol am nodi materion sy'n effeithio ar ddiogelwch, llesiant a hawliau pobl. Rydym yn barod i gymryd camau ein hunain a mynnu atebion gan bobl eraill yn lle dibynnu ar eraill neu dderbyn oedi.
3.2 Hybu arferion diogelu da
Ein prif rôl yw sicrhau bod gwasanaethau gofal a chymorth yn addas i'w gweithredu, yn cydymffurfio â rheoliadau ac yn darparu gofal diogel o ansawdd da nad yw'n gwneud pobl yn agored i'r risg o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio mewn ffyrdd eraill. Rydym hefyd yn adolygu perfformiad awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau diogelu statudol.
Rydym yn monitro ac yn arolygu darparwyr yn rheolaidd i sicrhau bod hyn yn digwydd.
- Pan fyddwn yn cofrestru ac yn arolygu darparwyr gofal a chymorth, rydym yn cadarnhau bod ganddynt systemau a phrosesau effeithiol ar gyfer cadw oedolion a phlant yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio mewn ffyrdd eraill.
- Rydym yn monitro ac yn gweithredu ar wybodaeth a gawn am arferion diogelu gwasanaethau a darparwyr.
- Rydym yn siarad â'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd, er mwyn deall eu profiad o ofal a nodi unrhyw faterion diogelu.
- Rydym yn siarad â staff a rheolwyr gwasanaethau gofal a chymorth er mwyn deall yr hyn y maent yn ei wneud i gadw pobl yn ddiogel.
- Rydym yn cymryd camau rheoleiddio i sicrhau bod darparwyr yn unioni unrhyw ddiffygion yn eu trefniadau ar gyfer diogelu oedolion a phlant.
- Rydym yn cyhoeddi ein canfyddiadau am arferion diogelu yn ein hadroddiadau arolygu ar wasanaethau/darparwyr unigol ac ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Lle y bo'n berthnasol, rydym yn eu cyfleu yn y graddau a ddyfarnwn i wasanaeth neu ddarparwr.
- Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid diogelu eraill, gan rannu gwybodaeth fel sy'n briodol er mwyn annog arferion diogelu da.
- Rydym yn adrodd ar nifer a natur y pryderon rydym wedi ymateb iddynt yn ystod ein gwaith o reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru yn Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd.
3.3 Delio â phryderon ynghylch diogelu
Os bydd sail resymol gennym dros gredu bod oedolyn neu blentyn yn cael, neu'n wynebu risg o gael ei gam-drin, ei esgeuluso neu ei niweidio, ein blaenoriaeth gyntaf yw sicrhau bod y bobl gywir yn ymwybodol o'r sefyllfa fel y bydd modd iddynt gymryd camau i ddileu unrhyw risg uniongyrchol o niwed i'r unigolyn. Byddwn yn gwneud hyn o fewn 24 awr i ganfod neu gael gwybodaeth am y risg i'r unigolyn. Gall y bobl gywir gynnwys y darparwr, yr awdurdod lleol neu'r gwasanaethau brys.
Byddwn yn cofnodi pryderon ynghylch gofal a chymorth, gan gynnwys pryderon ynghylch diogelu, ar ein system rheoli gwybodaeth fewnol. Caiff pryderon ynghylch diogelu eu cysylltu â chofnod y gwasanaeth a'r darparwr perthnasol, a chânt eu pennu i arolygydd priodol a fydd yn rheoli'r achos. Bydd yr arolygydd, mewn ymgynghoriad â'i reolwr lle y bo angen, yn ystyried natur y risg dan sylw ac yn pennu dull gweithredu.
Ymysg y camau y gallwn eu cymryd yn y lle cyntaf mae: ceisio rhagor o wybodaeth; trafod y mater ag asiantaethau partner (megis awdurdod lleol, Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) a/neu roi gwybod am y mater i'r asiantaeth bartner berthnasol ymchwilio iddo a chymryd camau yn ei gylch; cyfeirio'r mater yn ôl i'r darparwr perthnasol; a/neu drefnu arolygiad o fewn y terfynau amser priodol.
Pan fyddwn yn rhoi gwybod am bryder ynghylch diogelu i awdurdod lleol a/neu'r heddlu, byddwn yn coladu'r holl wybodaeth ar ffurflen adrodd am fater diogelu AGC mewn modd cynhwysfawr a chryno. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sylfaenol am yr unigolyn dan sylw, disgrifiad manwl o'r pryder ynghyd â thystiolaeth ategol, a disgrifiad o unrhyw gamau a gymerwyd hyd yn hyn.
Yn achos oedolyn sy'n wynebu risg, byddwn yn nodi p'un a yw'r unigolyn (neu'r unigolyn â phŵer atwrneiaeth o dan yr amgylchiadau priodol) yn ymwybodol ai peidio ein bod wedi nodi pryder ynghylch diogelu sy'n effeithio arno a/neu ein bod wedi penderfynu rhoi gwybod am bryder o'r fath, ac os nad yw'n ymwybodol, pam ein bod wedi penderfynu mynd rhagddo heb ddweud wrtho.
Mewn sefyllfa lle mae tri unigolyn neu fwy yn wynebu risg, er enghraifft o ganlyniad i fethiannau systemig yn y ffordd y caiff gwasanaeth gofal a chymorth penodol ei ddarparu, lle y bo'n briodol mae'n bosibl y byddwn yn cyflwyno un adroddiad ar gyfer y lleoliad yn lle nifer o adroddiadau ar wahân ar gyfer pob unigolyn.
Os bydd rhywun sy'n gweithio mewn gwasanaeth gofal cymdeithasol neu wasanaeth gofal plentyn yn rhoi gwybodaeth am ddiogelu i ni mewn modd y gellid ei ystyried yn achos o chwythu'r chwiban, byddwn yn delio â'r mater yn unol â'n cyfrifoldebau fel person rhagnodedig o dan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998. Gweler ein Darparu adborth am wasanaethau gofal yng Nghymru dogfen ganllaw.
Os cawn wybodaeth am fater diogelu gan awdurdod lleol sydd eisoes yn cymryd camau i gadw'r unigolyn neu'r bobl dan sylw yn ddiogel, byddwn yn cofnodi'r wybodaeth honno ac yn cymryd camau ar ei sail yn yr un modd ag y byddwn yn cofnodi a chymryd camau ar sail unrhyw bryder neu adborth a gawn gan ddarparwyr rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu. I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd rydym yn delio â phryderon ac yn amddiffyn diogelwch, llesiant a hawliau pobl, gweler ein Darparu adborth am wasanaethau gofal yng Nghymru dogfen ganllaw a'n Polisi Hawliau Dynol.
4. Gweithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill
4.1 Trafodaethau cychwynnol ac adrodd
Rydym yn cydgysylltu'n agos â'r awdurdod lleol, fel arfer dros y ffôn, yn ystod y camau cychwynnol o ymateb i bryder ynghylch diogelu. Mae'n bosibl y byddwn yn ceisio rhagor o wybodaeth er mwyn deall unrhyw oblygiadau rheoleiddio i'r darparwr dan sylw, a phenderfynu a fyddai adroddiad diogelu ffurfiol yn briodol.
Ar ôl i ni roi gwybod am bryder diogelu, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gynnal ymholiadau i'w alluogi i benderfynu ar y camau nesaf. Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn gwneud yr ymholiadau ei hun, neu os mai asiantaeth arall sydd yn y sefyllfa orau i gynnal ymholiadau, gall yr awdurdod lleol ofyn i gorff arall eu gwneud. Gellir gofyn i bartneriaid perthnasol gynnal ymholiadau ar ran yr awdurdod lleol, ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â cheisiadau o'r fath oni bai eu bod yn anghydnaws â'u dyletswyddau eu hunain. Efallai y bydd modd i eraill gynorthwyo o dan rai amgylchiadau, er enghraifft sefydliad trydydd sector neu sefydliad annibynnol sy'n cefnogi'r unigolyn.
Yr awdurdod lleol fydd â'r ddyletswydd o hyd i bennu natur a chanlyniad yr ymholiadau, hyd yn oed os mai corff arall fydd yn cynnal yr ymholiadau.
Ni chaiff AGC ei enwi fel partner perthnasol, ond gall gynorthwyo gydag ymholiadau mewn perthynas â darparwyr gwasanaethau/staff a allai fod wedi torri rheoliadau. Nid rôl AGC yw cynnal ymholiadau y tu allan i hyn.
4.2 Cyfarfodydd strategaeth a chynadleddau achos
Rydym yn ceisio mynd i bob cyfarfod strategaeth a chynhadledd achos os bydd y goblygiadau rheoleiddio ar gyfer y darparwr dan sylw a/neu gymhlethdod y mater yn cyfiawnhau gwneud hynny. Byddwn yn cymryd rhan o bell/yn rhithwir lle y bo'n bosibl. Nid oes angen i ni fod yn bresennol os bydd cynlluniau ar waith eisoes ac os bydd dealltwriaeth glir o'r hyn a ddigwyddodd, neu natur y risgiau. Ein hamcanion ar gyfer cymryd rhan yw cyfrannu ein safbwynt proffesiynol, cael gwybodaeth berthnasol a'i rhannu a chyfrannu ag y gwaith o wneud penderfyniadau.
4.3 Uwchgyfeirio Pryderon
Mae'r broses uwchgyfeirio pryderon, lle mae'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn gweithio gyda darparwr i wella gwasanaeth gofal sy'n wynebu risg o fethu, yn cynnwys cyfres o gyfarfodydd a gaiff eu cynnal yn aml ochr yn ochr â gweithdrefnau diogelu. Byddwn yn cyfrannu at gyfarfodydd uwchgyfeirio pryderon os bydd cyfraniad pwysig gennym i'w wneud, neu os bydd angen cydgysylltu gweithgareddau. Mae'n bosibl na fydd angen i ni gymryd rhan mewn pob cyfarfod os byddwn eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o gamau gweithredu'r asiantaethau eraill a'u hasesiad o'r gwasanaeth gofal dan sylw, ac os bydd yr awdurdod lleol yn glir ynglŷn â chanlyniad ein gweithgaredd, ein prosesau a'n bwriadau.
4.4 Gweithio gyda'r heddlu a chyrff gorfodi eraill
Mewn ymchwiliadau cymhleth lle bydd achos troseddol yn mynd rhagddo, caiff prosesau gorfodi'r gyfraith eu rheoli ar wahân, ond ochr yn ochr â phrosesau diogelu. Rhaid cadw cysylltiad rhwng y ddwy set o brosesau. Byddwn bob amser yn ystyried y cyfle i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn ystod y camau o ddod o hyd i ffeithiau ac ymchwilio, er enghraifft drwy gasglu tystiolaeth a chyfweld â thystion ar y cyd.
4.5 Gwneud atgyfeiriadau/gweithio gyda rheoleiddwyr eraill
Lle y bo'n briodol, rydym fel arfer yn disgwyl i ddarparwyr roi gwybod i'r cyrff statudol a'r cyrff eraill sy'n gyfrifol am reoleiddio proffesiynol fel y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Gofal Cymdeithasol Cymru am weithwyr y ceir pryderon yn eu cylch. Lle na roddir gwybod iddynt, gall AGC atgyfeirio'r achos yn uniongyrchol.
Os ystyrir bod gweithiwr unigol (gweithiwr cyflogedig neu weithiwr sy'n derbyn ffi am weithio) yn peri risg o niwed i bobl sy'n agored i niwed, gall AGC hefyd atgyfeirio'r achos at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Mae methu ag atgyfeirio achos heb reswm da yn drosedd. Byddwn hefyd yn rhannu pryderon ynghylch diogelu am ddarparwr ag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, neu reoleiddwyr eraill y DU, fel sy'n briodol.
4.6 Diogelu data persono
Gall y wybodaeth y byddwn yn ei chasglu, yn ein rôl fel rheoleiddiwr ac arolygydd gofal cymdeithasol a gofal plant, gynnwys gwybodaeth sy'n ei gwneud yn bosibl i enwi unigolion penodol, a all fod yn sensitif i'r unigolion dan sylw. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth o'r fath ag asiantaethau partner os bydd yn gyfreithlon i wneud hynny, megis pan fydd angen i ni ddiogelu pobl sy'n wynebu risg a/neu gefnogi prosesau cyfreithiol ein hasiantaethau partner. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd am ragor o wybodaeth am y ffordd rydym yn defnyddio ac yn diogelu data personol.
Rydym yn rhannu gwybodaeth yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a'r ddyletswydd cyfrinachedd o dan y gyfraith gyffredin. Mae hyn yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu ac ni ddylid ei ddefnyddio'n awtomatig fel rheswm dros beidio â gwneud hynny. O dan amgylchiadau eithriadol, gellir rhannu gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon heb gydsyniad lle ceir sail gyfreithlon dros wneud hynny, er enghraifft, lle y gallai fod risg i ddiogelwch.
5. Ein Staff
5.1 Recriwtio a hyfforddi
Mae'r sesiynau sefydlu a gynhelir i bob unigolyn a gaiff ei gyflogi gan AGC yn cynnwys ymwybyddiaeth o ddiogelu a gwybod sut i roi gwybod am bryder ynghylch diogelu, ac rydym yn cynnal gwiriadau manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr aelodau hynny o'n staff sy'n debygol o ddod i gysylltiad â phlant neu oedolion sy'n wynebu risg fel rhan o'u rôl. Mae pob aelod o'n staff yn cael hyfforddiant rheolaidd ar ddiogelu sy'n gymesur â'i rôl.
5.2 Rôl swyddogion cyfrifo
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau perthnasol gael person diogelu dynodedig. Mae Dirprwy Brif Arolygydd ac uwch-reolwr yn cadw goruchwyliaeth strategol o bob agwedd ar ddiogelu o fewn AGC.
Mae timau AGC sy'n arolygu gwasanaethau cofrestredig wedi enwi hyrwyddwyr diogelu sy'n gyfrifol yn weithredol am gefnogi trefniadau dysgu a datblygu ymarfer y staff.
Mae gweithgor diogelu yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau ansawdd ymarfer, adrodd ar unrhyw bryderon ynghylch diogelu a ddaeth i law ac unrhyw atgyfeiriadau a wnaed gan AGC, a sicrhau bod y polisïau, y gweithdrefnau, y canllawiau a'r deunyddiau hyfforddi yn gyfredol.
5.3 Delio â honiadau am staff AGC
Mae'n bosibl y caiff honiadau o gam-drin eu gwneud yn erbyn cyflogai AGC unigol mewn perthynas â'i fywyd proffesiynol neu ei fywyd preifat. Rhoddir gwybod am y mater i'r swyddog arweiniol a fydd yn sicrhau y caiff ei atgyfeirio, lle y bo'n briodol, at y gangen berthnasol o'r awdurdod lleol.