Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Pwy ydw i?
Rwy'n byw ym Mro Morgannwg. Yn y gorffennol, roeddwn yn Unigolyn Cyfrifol am dros 15 mlynedd mewn grŵp cartrefi gofal a oedd yn cefnogi unigolion 18+ oed. Mae fy nghefndir ym maes gwasanaethau cyhoeddus (roeddwn yn gyfrifydd yn wreiddiol). Mae fy niddordebau y tu allan i'r gwaith yn cynnwys teulu, ein cŵn a thennis
Beth ydw i'n ei wneud?
Rwy'n Gyfarwyddwr canolfan breswyl i deuluoedd, sy'n helpu pob plentyn i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Rwyf hefyd yn un o gyfarwyddwyr anweithredol Gofal Cymdeithasol Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar hyn o bryd. Yn y gorffennol, roeddwn yn swyddog anweithredol (cyfrifoldeb dros gyllid) yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru ac yn aelod o fwrdd cymdeithas dai.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
- Datblygu gwasanaethau newydd a gwella ansawdd gwasanaethau
- Comisiynu arferion gorau
- Gwella partneriaethau
- Rhannu profiadau darparwyr
- Cynaliadwyedd gwasanaethau yn y dyfodol
- Mae gen i ddiddordeb ehangach mewn mentrau cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol, cyflogadwyedd, hyfforddi a datblygu, a pholisi (gan gynnwys cefnogi gwelliannau yn yr amgylchedd deddfwriaethol yn y dyfodol)
Beth sy'n bwysig i fi
- Ymgysylltu ag unigolion a'u cynnwys mewn ffordd effeithiol
- Gwella'r defnydd o ddata cyffredin (gan gynnwys profiad defnyddwyr) gan ddarparwyr, comisiynwyr, rheoleiddwyr a chyrff statudol
- Gwella fy nealltwriaeth o'r broses o wella mentrau cymdeithasol ac iechyd a gofal cymdeithasol (gan ganolbwyntio'n benodol ar agweddau ataliol, amgylcheddol a chynaliadwyedd) a gwneud mwy o gyfraniad at y broses honno