Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Pwy ydw i?
Órlaith Brennan ydw i. Rwy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol, ond bûm yn byw yn Ne-orllewin Cymru ers bron i saith mlynedd a hanner bellach ar ôl symud i'r ardal i ddechrau fy ngyrfa ym maes gofal cymdeithasol a datblygu cariad tuag at harddwch traethau ac ardaloedd cefn gwlad Cymru.
Beth ydw i'n ei wneud?
Rwyf wedi gweithio yn y sector gofal cartref ers i mi symud i Gymru. Dechreuais fel gofalwr cartref cyn symud i swyddi fel monitor galwadau, cynorthwyydd swyddfa a chynorthwywydd maes, goruchwylydd maes a Rheolwr Gofal Clinigol erbyn hyn. Rwyf hefyd yn cadeirio bwrdd gofal cymhleth sy'n arbenigo mewn anghenion gofal cymhleth, gweithredu polisi, gweithio mewn partneriaeth a diogelu.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
Rwyf wedi gweithio yn y sector gofal cartref ledled tair sir yn Ne-orllewin Cymru, felly mae gen i ddealltwriaeth well o'r heriau a wynebir gan bob ardal ddaearyddol. Rwy'n arbenigo mewn diogelu oedolion agored i niwed. Rwyf hefyd yn arbenigo mewn anghenion gofal cymhleth yn y gymuned, gan sicrhau bod staff gofal cartref yn cael yr hyfforddiant a'r canllawiau priodol i gefnogi'r unigolion hyn.
Beth sy'n bwysig i fi
Rwy'n awyddus i sicrhau safonau gofal uchel ac i weithredu polisïau sy'n diogelu ein defnyddwyr gwasanaeth mwyaf agored i niwed. Rwy'n bwrw ati i hyrwyddo trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth er mwyn dymchwel y rhwystrau yn y sector gofal cymdeithasol a gwella'r profiad gofal i bobl Cymru. Yn fy marn i, bydd sicrhau bod gan aelodau'r gweithlu lefel uchel o sgiliau a'u bod yn meddu ar ddealltwriaeth well o anghenion eu hunigolion yn gwella llesiant y bobl rydym yn darparu gofal iddynt.