Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Natalie Fletcher

Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Pwy ydw i?

Rwy'n hoffi meddwl fy mod wedi cyrraedd rhyw uchafbwynt yn fy mywyd ac ar ôl treulio 30 mlynedd yn gweithio yn y sector gofal plant, rwy'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i'r swydd berffaith.

Rwy'n greadur cymdeithasol ac er mwyn datblygu fy ngyrfa, symudais o ardal Essex i'r gogledd ac i harddwch Cymru. Rwyf wedi gwneud ffrindiau ac wedi creu cysylltiadau ardderchog, sy'n fy helpu i ymdopi â'r pellter rhyngof fi a'm teulu.

Rwy'n hoff iawn o anifeiliaid ac yn mwynhau bod o amgylch byd natur ac anifeiliaid anwes.

Rwyf wrth fy modd gartref a dweud y gwir ac yn mwynhau ymlacio yn fy mwthyn cefn gwlad, yn pobi danteithion i'm ffrindiau.

Beth ydw i'n ei wneud?

Fi yw'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal a'r Unigolyn Cyfrifol ar ran sefydliad preifat sy'n darparu cartref ac yn cefnogi addysg i blant.

Rwy'n gyfrifol am oruchwylio'r broses o ddatblygu gwasanaethau gofal plant mewn ffordd strategol ac mae gen i gyfrifoldeb gweithredol a chyfreithiol dros y cartrefi.

Mae gen i frwdfrydedd tuag at fy ngwaith a chaf foddhad mawr o sicrhau bod gan y sefydliad foeseg a gwerthoedd cadarn sy'n galluogi pob rhanddeiliad i deimlo'n hyderus yn y gwasanaeth. Rwyf wrth fy modd â'm swydd ac ni fyddwn i'n hapus yn gwneud unrhyw beth arall.

Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad

Rwy'n unigolyn sy'n hoff iawn o gadw'n heini ac rwy'n mwynhau rhedeg, dringo mynyddoedd a bod yn yr awyr agored. Gwneud ymarfer corff sy'n rhoi'r boddhad mwyaf i mi.

Rwyf wrth fy modd yn gwylio chwaraeon hefyd.

Rwy'n mwynhau mynd i'r gampfa ac wrth fy modd yn cymdeithasu ac yn cwrdd â phobl newydd.

Roeddwn i'n arfer cystadlu mewn cystadlaethau dawns glasurol/neuadd ddawnsio pan oeddwn i'n ifancach ac mae'r diddordeb hwn wedi parhau (er nad wyf mor ystwyth erbyn hyn!)

Rwyf wrth fy modd yn coginio (pobi yn arbennig) a gaiff ei wrthbwyso gan yr ymarfer corff rwy'n ei wneud, sy'n golygu y gallaf fwynhau bwyta'r hyn y byddaf yn ei bobi heb deimlo'n euog.

Beth sy'n bwysig i fi

Mae rhan sylweddol o'm hamser cymdeithasol yn cael ei threulio yng nghwmni teulu a ffrindiau a dyna pryd byddaf yn teimlo hapusaf.

Rwyf yr un mor gyfforddus ar fy mhen fy hun ac rwyf wrth fy modd yn cadw'n heini. Byddaf yn aml yn y gampfa neu'n dringo mynydd, boed hynny ar fy mhen fy hun neu gyda chwmni.

Rwyf wrth fy modd yn ymweld â gwahanol leoedd ac yn treulio amser yn ymlacio dramor.

Mae gen i lawer o ffrindiau sy'n byw dros y môr, felly byddaf yn aml yn treulio amser yn ystod y flwyddyn yn ymweld â'r bobl arbennig hyn.

Mae'n bwysig i fi fy mod yn cael fy nghlywed ac yn cael fy nhrin mewn ffordd deg. Mae'r gwerthoedd hyn yr un mor bwysig yn y ffordd y byddaf yn trin pobl eraill.

Mae meddu ar ddiben a gweithio tuag at y diben hwnnw yn rhoi ffocws i mi ac yn sicrhau fy mod yn edrych i'r dyfodol.