Ddirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru
Pwy ydw i?
Margaret Rooney ydw i a fi yw Dirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru.
Beth ydw i'n ei wneud?
Cefais fy mhenodi'n Ddirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ar 22 Ebrill 2019.
Ymunais yn wreiddiol ag Arolygiaeth Gofal Cymru (sef AGGCC ar y pryd) fel Rheolwr Ardal ym mis Mai 2013, a gweithiais mewn nifer o swyddi gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol, gan arwain y gwaith o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith, ac hefyd yn Bennaeth Cofrestru a Gorfodi.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
Dechreuais fy ngyrfa fel athrawes ysgol uwchradd cyn symud i Gymru yn 2002 a gweithio ym maes gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Blaenau Gwent. Wedi hynny, gweithiais ym maes cyfiawnder ieuenctid fel Pennaeth Gwella Perfformiad Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.
Beth sy'n bwysig i fi
Yn amlwg, aelodau fy nheulu yw'r peth pwysicaf i fi felly mae'n bwysig treulio amser o ansawdd yn eu cwmni. O ran fy ngyrfa, gwneud gwahaniaeth i bobl sy'n fy nghymell i godi yn y bore.