Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Margaret Rooney

Dirprwy Brif Arolygydd

Cefndir

Dechreuodd Margaret ei gyrfa fel athrawes ysgol uwchradd cyn symud i Gymru yn 2002 lle buodd yn gweithio ym maes gwasanaethau plant yng Nghyngor Sir Blaenau Gwent. Yn dilyn hynny, gweithiodd ym maes cyfiawnder ieuenctid fel pennaeth gwella perfformiad Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Ers ymuno ag AGC (AGGCC gynt) fel Rheolwr Ardal ym mis Mai 2013, mae Margaret wedi gweithio mewn nifer o rolau gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol, arwain y gwaith o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Phennaeth Cofrestru a Gorfodi. 
Mae Margaret, sy'n hanu o Iwerddon, bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Rôl bresennol

Cafodd Margaret ei phenodi'n Ddirprwy Brif Arolygydd ar 22 Ebrill 2019.