Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Manteisio i’r eithaf ar ddiddordebau plant i annog chwilfrydedd a mwynhad plant yn eu dysgu

Caiff ymarferwyr eu hannog i ddilyn arweiniad y plentyn a modelu ymagwedd lawen at ddysgu.

Children at the birthday party with the animator, laughing

Gwybodaeth am y lleoliad

Yn Nant Dyrys, mae’r lleoliad wedi dod yn angerddol dros gynllunio yn y fan a’r lle. Mae’r ymdeimlad o fwynhad, brwdfrydedd ac archwilio ymhlith plant ac ymarferwyr wedi dod yn rhan o’r drefn ddyddiol, gan fod y lleoliad yn aml yn ferw o gyfleoedd dysgu gwych yn llawn parchedig ofn a rhyfeddod. Mae’r tîm cyfan yn rhannu’r weledigaeth ar gyfer datblygu cyfleoedd ystyrlon i ymateb i ddiddordebau a chyfareddion plant. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad yn ceisio manteisio ar ddiddordebau plant ar y pryd / yn y fan a’r lle i annog mwy o chwilfrydedd a mwynhad yn eu dysgu. Yn 2021, roedd ymarferwyr yn ffodus i gymryd rhan yn y cynllun peilot i ddatblygu a hyrwyddo Cwricwlwm i Gymru. Y flwyddyn ganlynol, cafodd y lleoliad ei gydnabod am ei gyfraniad a’i ymrwymiad o ran rhoi’r cwricwlwm ar waith yn llwyddiannus, gan gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad plant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Amgylcheddau sy’n galluogi

Amgylcheddau sy’n galluogi

Gellir rhannu cynllunio yn y fan a’r lle yn dri chategori syml.

  1. Yn gyntaf, chwilfrydedd y plentyn neu’r hyn sy’n tanio’r diddordeb.
    Ar yr adeg hon, mae ymarferwyr yn arsylwi plant yn agored er mwyn gallu myfyrio ac ymateb i anghenion unigol pob plentyn o fewn y lleoliad.
  2. Dilynir hyn gan ryngweithio ymatebol a greddfol gan ymarferwyr sydd ag adnoddau da.
    Caiff ymarferwyr eu hannog i ddilyn arweiniad y plentyn a modelu ymagwedd lawen at ddysgu. Maent yn cefnogi ac yn gwella chwilfrydedd naturiol y plentyn ac yn ymestyn dysgu trwy archwilio a chwarae.
  3. Yn olaf, tystiolaeth ysgrifenedig.
    Cynhelir deialog broffesiynol reolaidd ymhlith yr holl ymarferwyr. Wedyn, caiff arsylwadau eu casglu, eu trafod a’u dogfennu, gan amlygu ‘eiliadau addysgadwy’ a deilliannau. Wedyn, maent yn myfyrio ar y dysgu ac yn nodi heriau unigol plant a’r camau nesaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae manteision dilyn arweiniad y plentyn, ac nid eu cyfyngu i agendâu oedolion, yn galluogi plant i ymchwilio’u chwilfrydedd cynhenid. Mae archwilio trwy chwarae yn hanfodol i ddatblygiad ac yn darparu cyfleoedd gwych ar gyfer deilliannau cadarnhaol.

Enghraifft dda o wahoddiad i chwarae oedd pan aeth un o’r ymarferwyr i mewn i’r lleoliad yn gwisgo wig. Chwarddodd y plant a mwynhau’r olygfa, a gweiddi ‘rwyt ti wedi torri dy wallt.’

Digwyddodd chwarae rôl yn reddfol gydag oedolyn sy’n galluogi yn modelu sut i wisgo i fyny gan ddefnyddio propiau am noson yn y bingo.

Cyflwynwyd cerddoriaeth i dôn ‘The Osmonds: ‘Puppy love’. Taniodd hyn chwilfrydedd llawer o blant eraill yn yr ystafell a ymunodd yn y chwarae wedyn trwy rolio’u gwallt mewn cyrlwyr, gan ychwanegu chwistrelliad o bersawr tra’n gwisgo dillad fintej a wigiau. Trwy gydol y cyfnod hwn o chwarae, llwyddwyd i wella lles plant yn amlwg, gyda rhai plant yn defnyddio’u profiadau o gartref trwy ddynwared eu mamau / neiniau eu hunain. Daeth y plant yn hyderus i wisgo i fyny a phrofi bywyd yn y gorffennol gyda’i gilydd.

Mae ymarferwyr yn credu bod adegau fel hyn yn cwmpasu ethos yr elfennau sy’n galluogi yn y llwybrau i’w bodloni.

Datblygodd y lleoliad ddogfen ddefnyddiol i helpu cofnodi ethos Cwricwlwm i Gymru, gan amlygu pethau fel maent yn digwydd a dathlu cyflawniadau plant. Mae hyn yn ei alluogi i amlygu diddordebau a phrofiadau tra’n cofnodi cyfleoedd dysgu pwrpasol sy’n digwydd yn ystod chwarae ac archwilio.

Mae ymarferwyr o’r farn fod yr ymagwedd hon at addysg yn cipio barn gyfannol y plentyn. Mae hefyd yn cael gwared ar y pwysau a achosir gan arddull addysgu fwy confensiynol, a oedd yn aml yn cael ei harwain gan oedolyn. Mae ymarferwyr bellach yn treulio amser o ansawdd da gan fynd ati i ymgymryd â rhyngweithio cyfoethog ac ystyrlon sy’n darparu gwybodaeth am bersonoliaethau a galluoedd unigol plant. Mae hefyd yn galluogi ymarferwyr i gofio profiadau yn fanwl a’u dogfennu’n effeithiol heb bwysau gwaith papur.