Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Kevin Barker

Dirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru

Pwy ydw i?

Kevin Barker ydw i ac rwy'n Ddirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru.

Beth ydw i'n ei wneud?

Ymunais ag Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gynt yn 2002 a chefais fy mhenodi'n Ddirprwy Brif Arolygydd AGC ym mis Awst 2024.

Dechreuais fy ngyrfa fel gweithiwr cymdeithasol ym Mryste, cyn symud i Gymru i weithio i Gyngor Gorllewin Morgannwg yn 1989. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau, gan gynnwys fel uwch-ymarferydd, prif swyddog gwasanaethau cymdeithasol a chyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer asiantaeth wirfoddol fawr. Treuliais y rhan fwyaf o'm gyrfa cyn ymuno â'r arolygiaeth yn gweithio mewn gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu. Yn fwyaf diweddar yn AGC, roeddwn yn Bennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae rhwng 2018 a 2024.

Fy meysydd o ddiddordeb a/neu brofiad

Mae gennyf ddiddordeb yn y gwahaniaeth y gall arolygu ei wneud i wella pethau i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu. Rwy'n credu'n gryf fod hyn yn gofyn am gydweithio a gwaith partneriaeth fel norm, yn hytrach nag eithriad.

Beth sy'n bwysig i mi

Rwyf am weld potensial pawb yn cael ei wireddu – gan gynnwys y rheini y mae anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn cyfyngu ar eu cyfleoedd. Y tu allan i'r gwaith, rwy'n mwynhau rhedeg fel rhan o glwb rhedeg cymdeithasol. Rwy'n hoffi hanes, barddoniaeth (darllen, nid cyfansoddi) a nofelau. Rwy'n cefnogi clwb rygbi Caerfaddon – ond nid yw hon yn farn boblogaidd yng Nghymru!