Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Kevin Barker

Dirprwy Brif Arolygydd

Cefndir

Dechreuodd Kevin ei yrfa fel gweithiwr cymdeithasol ym Mryste, cyn symud i Gymru yn 1989. Gweithiodd fel uwch-ymarferydd, swyddog datblygu cymunedol ac fel prif swyddog gwasanaethau cymdeithasol yn ne Cymru – yn bennaf mewn gwasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.  Cyn iddo ymuno â chyn Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn 2002, roedd yn bennaeth i sefydliad gwirfoddol ym Mryste yn darparu amrywiaeth o wasanaethau preswyl a chartref i bobl sy'n byw ag anableddau dysgu. 

Mae Kevin wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau ar gyfer yr arolygwyr - gan arwain ar adolygiadau o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (gan gynnwys adolygiadau ar y cyd â chyn Swyddfa Archwilio Cymru) a rôl dros dro yn cydlynu gwaith AGC ac arolygiaethau partner drwy 'Arolygiad Cymru'. Ef oedd Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae AGC rhwng 2018 a 2024.

Yn wreiddiol o Bethnal Green yn Nwyrain Llundain, mae Kevin bellach yn byw yn Aberhonddu ac mae ganddo ddwy ferch ac un wyres. 

Rôl bresennol

Dechreuodd Kevin yn ei swydd fel Dirprwy Brif Arolygydd ar 19 Awst 2024.