Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Pwy ydw i?
Fy enw i yw Kate Cubbage. Rwy'n arweinydd seiliedig ar werthoedd yn y trydydd sector ac yn awyddus i ddatblygu timau creadigol ac uchelgeisiol a gaiff eu huno gan nodau a rennir. Rwy'n anelu at greu consensws, ac yn gallu creu cysylltiadau ystyrlon a meithrin partneriaethau sy'n fuddiol i bawb er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf.
Beth ydw i'n ei wneud?
Fi yw Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n rhan o Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, sef y rhwydwaith mwyaf o sefydliadau ledled y DU sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl ac yn eirioli drostynt. Fi hefyd yw Cadeirydd Cynghrair Cynhalwyr Cymru a Dirprwy Gadeirydd Grŵp Cynghori'r Gweinidogion ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.
Rwyf wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau proffesiynol a gwirfoddol o fewn y trydydd sector dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac wedi cael profiad bywyd fel gofalwr ifanc ac fel rhiant.
Fy meysydd o ddiddordeb a/neu brofiad
Mae gennyf ddiddordeb penodol mewn sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu a'r cymorth sydd ei angen arno i fyw bywyd llawn ac iach.
Rwyf hefyd yn ymrwymedig i hyrwyddo pwysigrwydd hanfodol buddsoddiadau cynaliadwy yn y trydydd sector.
Beth sy'n bwysig i mi
Rwy'n awyddus i sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel ar bob cam o'i daith gofalu. Mae cydweithio i adeiladu cymunedau iach a gwydn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar atal niwed a hyrwyddo llesiant yn bwysig i mi.