Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae

Rydym wedi diweddaru ein dull o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella.

Rydym wedi bod yn ystyried sut y gallwn wneud mwy i gefnogi lleoliadau i wella ac wedi cyflwyno cyfarfodydd ansawdd rhwng arolygiadau, yn seiliedig ar ansawdd y ddarpariaeth ym mhob lleoliad unigol.

Ein nodau

  • gwneud mwy i hyrwyddo gwelliannau yn y sector a darparu sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch lleoliadau.
  • annog arloesedd drwy hyrwyddo a rhannu enghreifftiau o ddarpariaeth gofal plant a chwarae o ansawdd rhagorol.


Beth sy'n newid?

  • Byddwn yn dechrau cyflwyno cyfarfodydd ansawdd rhwng arolygiadau yn raddol yn ddiweddarach yn 2024. Gwnaethom dreialu'r cyfarfodydd hyn yn ystod 2023 a chyhoeddi adroddiad gwerthuso
  • Yn y gorffennol, cyfeiriwyd at y cyfarfodydd hyn fel cyfarfodydd gwella, ond rydym wedi penderfynu eu galw'n gyfarfodydd ansawdd er mwyn cyfleu'r amrywiaeth ehangach o drafodaethau a gynhelir am ansawdd y gwasanaeth yn gyffredinol.
  • Byddwn hefyd yn cynnal cynadleddau ansawdd blynyddol i rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ac i fwrw ati gyda'n gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion cyffredin sy'n codi yn y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.
  • Byddwn hefyd yn rhannu straeon am ymarfer cadarnhaol ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol AGC.

Byddwn yn parhau i roi sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch lleoliadau drwy ein harolygiadau. Byddwn yn canolbwyntio ar y lleoliadau y mae angen iddynt wneud y gwelliannau mwyaf ac yn arolygu'r lleoliadau hyn yn amlach na'r rhai hynny sy'n sicrhau canlyniadau ‘da’ neu ganlyniadau ‘rhagorol’ i blant.

Byddwn yn darparu gwybodaeth a chanllawiau manylach mewn perthynas â'r newidiadau hyn yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.