Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Helena Kowalewska

Cefnogi plant amlieithog mewn gosodiad cynhwysol.

Map of the world and flags

Cefndir

Dyma Helena, gwarchodwr plant llawn brwdfrydedd o Gaerdydd sy’n trawsnewid y ffordd y mae plant ifanc yn datblygu eu sgiliau iaith. Wedi’i hysbrydoli gan ei gwaith yn gofalu am blant bach o gefndiroedd ieithyddol amrywiol, penderfynodd droi her yn gyfle. Ar ôl buddsoddi mewn hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys ‘Saesneg fel iaith ychwanegol’, mae Helena bellach yn cynnig rhywbeth arbennig; amgylchedd magwrus, un i un lle gall plant ffynnu.

Beth y mae’n ei wneud yn wahanol?

Mae Helena wedi rhoi sawl ymarfer cynhwysol ar waith drwy:

· symleiddio ei hiaith a rhoi mwy o amser i brosesu

· defnyddio lluniau a labeli yn iaith gartref y plant ac yn Saesneg i’w helpu i’w hadnabod ac i wella eu geirfa

· defnyddio llyfrau dwyieithog, sianeli YouTube ac adnoddau iaith rhyngweithiol

· defnyddio gweithgareddau, fel siop fwyd degan, i ddysgu geirfa newydd

· dathlu gwyliau a thraddodiadau diwylliannol y plant

Mae Helena yn addasu gweithgareddau yn unol ag anghenion pob plentyn, gan ddefnyddio ciwiau gweledol, iaith syml, ac amser prosesu ychwanegol lle bo angen. Mae’r dull hwn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, gan gynnwys gwella datblygiad iaith, datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol, atgyfnerthu partneriaethau teuluol, a chynyddu hyder ac enghreifftiau o ryngweithio cymdeithasol ymhlith plant o gefndiroedd amrywiol.

Effaith …

  • sgiliau iaith sy’n ffynnu ymhlith plant dwyieithog, gan wella eu hyder yn y ddwy iaith
  • partneriaethau teuluol cryf sy’n mynd y tu hwnt i ofal bob dydd
  • datblygu dealltwriaeth plant o gefndiroedd amrywiol
  • ffrindiau am oes sy’n pontio gwahaniaethau diwylliannol

Dyfyniad

Rydym yn arbennig o hoff o’r ffordd y mae Helena yn gallu teilwra gweithgareddau yn unol ag anghenion a diddordebau ein merch, gan ei haddysgu ar yr un pryd am ddathliadau diwylliannol byd-eang.