Gweithio i ni

Gwybodaeth am ein swyddi gwag cyfredol a sut y gellwch nweud cais.
Pam y dylech weithio i ni
Mae ein timau’n cynnwys pobl broffesiynol sydd â sgiliau ac arbenigeddau gwahanol i sicrhau bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yn ddiogel ar gyfer y bobl sy'n eu defnyddio.
Gall gweithio i ni fod yn rôl sy'n rhoi boddhad p'un chi'n gweithio gyda'n timau cofrestru, arolygu, a gorfodi neu yn ein tîm gwasanaethau cymorth sy'n cynnwys ein timau cyfathrebu, AD a dysgu a datblygu.
Meini prawf ar gyfer rolau'r arolygydd
Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol o'r sector gofal plant neu chwarae, neu'r sector gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) y mae ganddynt brofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i blant (blynyddoedd cynnar) mewn sector gofal plant/chwarae/iechyd/gofal cymdeithasol. Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol/addysg derbyniol yn cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):
- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
- cymhwyster nyrsio,
- cymhwyster addysgu neu addysg,
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
- Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Swyddi gwag
- Uwch-reolwr Rheoleiddio ac Arolygu - Dyddiad cau 07/03/2025 (Dolen allanol)
Cofrestrwch i dderbyn hysbysebion swyddi
Os oes diddordeb gennych mewn gweithio i ni gallwch gofrestru i dderbyn hysbysebion swyddi. Pan gaiff swyddi eu hysbysebu byddwch yn derbyn e-bost ynglŷn â'n swyddi gwag cyfredol.
Gallwch hefyd ymweld â GoFalwn Cymru (Dolen allanol), basdata o gyfleoedd am swyddi blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.
Dogfennau
-
Taflen recriwtio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 235 KBPDF, Maint y ffeil:235 KB