Gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r ddarpariaeth a chyfoethogi profiadau dysgu
Mae ymarferwyr yn ymdrechu i sicrhau bod y plant yn elwa ar ddefnyddio cryfderau’r gymuned.
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae Cylch yn yr Ysgol yn lleoliad cyfrwng Cymraeg sydd wedi’i leoli yn nhref fechan Llanfair ym Muallt ar gyfer plant 3-4 oed, o ddydd Llun i ddydd Iau, yn ystod y tymor yn unig. Mae gan y lleoliad cyn-ysgol statws elusennol, ac fe gaiff ei arwain gan bwyllgor rheoli gwirfoddol gyda thri ymarferwr. Croesewir plant o bob cefndir a gallu, ac mae bron pob un o’r plant yn siarad Saesneg ar yr aelwyd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae’r lleoliad yn deall pwysigrwydd partneriaethau cryf wrth ddatblygu ymdeimlad plant o chwilfrydedd am fywydau a chredoau pobl. Mae ymarferwyr yn ymdrechu i sicrhau bod y plant yn elwa ar ddefnyddio cryfderau’r gymuned.
Mae wedi’i leoli yn Ysgol Gynradd Llanfair ym Muallt, ac mae pob un o’r ymarferwyr yn croesawu’r cyfle i weithio mewn partneriaeth agos â’r ysgol, nid yn unig o ran pontio, ond i rannu syniadau, gwybodaeth, adnoddau a hyfforddiant trwy drafodaethau wyneb yn wyneb. Estynnir y bartneriaeth hon i leoliadau cyn-ysgol eraill yn yr ardal, hefyd. Mae hefyd yn gweithio’n agos â chydweithwyr ym Mudiad Meithrin a thîm y blynyddoedd cynnar Powys.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Trwy weithio’n agos â’r ysgol gynradd, anogir y lleoliad i ddefnyddio tir helaeth yr ysgol, sy’n cefnogi cyfnod pontio’r plant yn y dyfodol yn gynnil trwy ddatblygu eu hyder o gwmpas amgylchedd yr ysgol a dod yn gyfarwydd â staff a phlant hŷn yr ysgol.
Mae’r ysgol yn annog y plant sy’n mynychu’r lleoliad i ymuno â digwyddiadau a dathliadau allweddol fel diwrnod chwaraeon, Eisteddfodau, perfformiadau Nadolig a chlwb gwyliau’r ysgol, sy’n rhoi cyfle delfrydol i blant ymgyfarwyddo â chymuned yr ysgol ehangach.
Pennaeth y brif ysgol gynradd fwydo yw’r Unigolyn Cyfrifol (UC) hefyd, ac mae hyn yn hyrwyddo cysondeb i’r plant wrth iddynt drosglwyddo i’r ysgol. Pan fo’n briodol, gwahoddir ymarferwyr i fynychu digwyddiadau hyfforddi’r ysgol, sy’n cefnogi dysgu proffesiynol yr ymarferwyr. Pan fydd yr ysgol yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr, estynnir gwahoddiadau i rieni a gofalwyr y plant yn y Cylch. Mae ymarferwyr y lleoliad yn cefnogi’r digwyddiadau hyn trwy ddarparu gofal plant i alluogi teuluoedd i fynychu. Mae’r lleoliad hefyd yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth ysgrifenedig yn cael ei dosbarthu i deuluoedd ar ran yr ysgol.
Yn ystod sesiynau pontio ‘ffurfiol’, mae athrawon yn ymweld â’r lleoliad i gyfarfod â’r plant cyn iddynt dreulio tri bore yn eu darpar ystafell ddosbarth, gydag ymarferwyr y Cylch yn cynorthwyo. Cynhelir trafodaethau wyneb yn wyneb gyda’r athro, y pennaeth a’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) i drafod pob plentyn yn llawn a rhannu unrhyw bryderon, a bydd tîm ADY Blynyddoedd Cynnar y sir yn cael ei gynnwys, pan fydd angen. Mae CydADY yr ysgol hefyd yn ymweld â’r lleoliad i gyfarfod ag unrhyw blant sydd ag ADY yn dod i’r amlwg neu wedi’i nodi, a thrafod y gefnogaeth a allai fod ei hangen ar blentyn. Mae ymarferwyr y lleoliad yn rhannu strategaethau ymddygiad llwyddiannus hefyd i sicrhau cysondeb a threfnu cyfleoedd i rieni fod yn rhan o’r trafodaethau hyn.
Mae’r lleoliad yn cydnabod gwerth gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Mudiad Meithrin, Menter Iaith, a grwpiau dawns, cerddoriaeth a chelf lleol. Mae’r grwpiau hyn yn gweithio gydag ymarferwyr a phlant i gefnogi datblygiad yn y Gymraeg, hyfforddiant staff, a gyda pholisïau a gweithdrefnau.
Mae ymarferwyr yn cyfarfod ag ymarferwyr o leoliadau eraill yn yr ardal yn rheolaidd i rannu arfer dda, syniadau ac adnoddau. Mae’r cyfarfodydd hyn yn helpu ymarferwyr i fyfyrio a gwneud gwelliannau i ddarpariaeth. Mae staff yn aml yn mentora a chefnogi arweinwyr newydd y lleoliad.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn cynnwys y gymuned ehangach yn fynych. Er enghraifft, mae’r plant yn cael profiad o deithio ar wasanaeth bws lleol, yn ymweld â chaffi, eglwys, y llyfrgell, ac yn ymweld â’r gorsafoedd heddlu a thân lleol. Maent hefyd yn ymweld â chartref gofal cyfagos i’r henoed ac yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cymunedol fel y cerbyd carnifal sydd wedi’i addurno orau yn y carnifal lleol. Yn aml, caiff gwaith celf y plant ei arddangos yn yr archfarchnad leol. Gwahoddir pobl leol i’r Cylch hefyd i rannu eu harbenigedd. Er enghraifft, daeth ymwelwyr i’r lleoliad i gynnal sesiynau pêl-droed, gweithgareddau pobi, a helpu’r plant i ddysgu am ddigwyddiadau diwylliannol fel Diwali a Holi. Yn ddiweddar, gwahoddwyd ffermwr lleol i ddod ag oen anwes i’r lleoliad gan y bu’r plant yn dangos diddordeb penodol mewn ffermio.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?
Mae cael partneriaethau amryfal a llwyddiannus wedi bod yn fuddiol iawn o ran darparu cyfleoedd a phrofiadau estynedig i’r plant i gefnogi eu dysgu a’u lles. Mae wedi galluogi ymarferwyr i ddefnyddio adnoddau, elwa ar arbenigedd ac archwilio syniadau newydd i ddarparu lefelau uchel parhaus o ddarpariaeth o ansawdd da. Mae gan y plant ymdeimlad gwell o berthyn a gwybodaeth fanylach am eu hardal leol, sydd yn ei dro yn helpu chwalu rhwystrau o fewn y gymuned, yn ffurfio perthnasoedd cadarnhaol â phobl eraill ac yn annog parch a goddefgarwch am bobl o wahanol gefndiroedd. Mae cael cysylltiadau cryf â’r gymuned hefyd wedi helpu’n ariannol gyda nifer o ddigwyddiadau lleol i godi arian a gynhelir ar ran y lleoliad.
Mae’r broses bontio wedi bod yn llwyddiannus iawn i’r plant a’r rhieni wrth i’r broses gael ei gweu yn barhaus i fywyd y lleoliad, ac mae’r camau yn fach a graddol, gan ddatblygu hyder a lleihau gorbryder.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae ymarferwyr yn y Cylch yn yr Ysgol wedi ysgrifennu astudiaethau achos arfer dda yn y gorffennol am bartneriaethau eraill, a oedd yn cael eu rhannu gyda’r tîm ymgynghorol dysgu sylfaen ym Mhowys, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae ymarferwyr hefyd wedi rhannu gwybodaeth gyda lleoliadau eraill ym Mhowys am sut maent yn defnyddio’u Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar (GDBC) i gefnogi plant a nodwyd a’u teuluoedd, yn ogystal â sut i nodi a chefnogi plant RADY (Gwella Cyrhaeddiad Pobl Ifanc dan Anfantais). Mae hyn yn cynnwys gweithio’n agos â’r brif ysgol gynradd fwydo i rannu gwybodaeth a strategaethau. Rhoddir gwybod i rieni / gofalwyr am brofiadau eu plentyn trwy grŵp caeedig y lleoliad ar y cyfryngau cymdeithasol.