Graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref – ein cynllun gweithredu
Mae'r cynllun hwn yn amlinellu sut y byddwn yn rhoi graddau ar waith, gan ystyried yr argymhellion a amlinellwyd yn y gwerthusiad annibynnol o'r adroddiad ar y graddau mud.
Ddiwedd mis Gorffennaf, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar reoliadau drafft a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i raddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref gael eu cyhoeddi o 1 Ebrill 2025.
Wrth baratoi ar gyfer cyhoeddi graddau ac mewn ymateb i werthusiad annibynnol o'r cynllun peilot graddau mud, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu sy'n amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Gallwch weld eich cynllun gweithredu graddau drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.
Ein hymateb hyd yma
Mae'r mis diwethaf wedi bod yn un prysur i dîm gwasanaethau oedolion a phlant AGC wrth i ni ganolbwyntio ar yr argymhellion a wnaed yn ein gwerthusiad annibynnol diweddar o'r graddau mud a'r ffordd y gallwn weithredu arnynt. Rydym hefyd wedi hwyluso tri digwyddiad i ddarparwyr er mwyn rhannu canfyddiadau'r gwerthusiad a'r ffordd y byddwn yn ymateb iddynt.
Ers i'r adroddiad gwerthuso gael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2024, rydym wedi ystyried yr argymhellion canlynol yn ofalus:
Argymhelliad 5: Dylai'r rhaglen newid gynnwys adolygiad o'r pedair thema bresennol sy'n cael eu graddio (llesiant, gofal a chymorth, arweinyddiaeth a rheolaeth, a'r amgylchedd). Dylai hyn edrych yn benodol ar swyddogaeth y thema llesiant ac ystyried torri'r cysylltiad â'r tair thema arall o ran lefelau'r graddau.
Ein hymateb:
Rydym wedi gwrando ar eich adborth ac wedi penderfynu y byddwn yn torri'r cysylltiad uniongyrchol rhwng y thema llesiant a'r tair thema arall (gofal a chymorth, arweinyddiaeth a rheolaeth a'r amgylchedd). Byddwn nawr yn canolbwyntio ar sut y gallwn werthuso llesiant y rhai sy'n cael gwasanaethau.
Argymhelliad 6: Dylid cynnal adolygiad o lefelau a disgrifyddion y graddau presennol, er mwyn rhoi syniad mwy effeithiol o berfformiad darparwr yn erbyn pob thema ac, yn benodol, roi safle gwahanol i'r rheini sy'n cael gradd ‘Da’.
Ein hymateb:
Rydym yn cytuno bod angen adolygu disgrifyddion y graddau. Byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r sector (drwy ein grŵp gorchwyl rhanddeiliaid sydd newydd ei sefydlu) i adolygu ein holl ddisgrifyddion.
Nododd yr adroddiad gwerthuso hefyd rai opsiynau ar gyfer fframwaith graddau i ni eu hystyried, gan gynnwys:
- Cyflwyno gradd neu raddau ychwanegol, er enghraifft ‘Da Iawn’
- Adolygu'r disgrifydd presennol ar gyfer y radd ‘Rhagorol’.
- Datblygu echelinau gweledol syml sy'n cynnwys lefelau'r graddau a sicrhau y gellir arddangos union safle gwasanaeth yn glir.
- Defnyddio system graddau sêr fel yr un a ddefnyddir yn y Safonau Hylendid Bwyd, i ddangos safle presennol gwasanaeth.
Er mwyn cynnal cysondeb, rydym wedi penderfynu parhau â'r pedair gradd y gwnaethom eu cyflwyno ym mis Mehefin 2023. Fodd bynnag, byddwn yn datblygu cynrychiolaeth weledol o'r pedair gradd ynghyd â fframwaith graddau diwygiedig a chanllawiau ategol.
Beth nesaf?
Mae llawer o waith i'w wneud rhwng nawr a mis Ebrill 2025, a byddwn yn gweithio'n agos gyda darparwyr a rhanddeiliaid eraill i'n helpu i ddatblygu'r canlynol:
- Disgrifyddion graddau diwygiedig
- Canllawiau i arolygwyr a darparwyr
- Sut rydym yn arddangos graddau
Gwnaethom ddechrau ar y gwaith hwn ddechrau mis Gorffennaf yn ein digwyddiad ar-lein i ddarparwyr, lle cawsom adborth gan dros 240 o ddarparwyr. Gallwch weld sleidiau PowerPoint y digwyddiadau hyn yma.
Rydym hefyd yn sefydlu grŵp gorchwyl graddau sy'n cynnwys darparwyr gofal, arolygwyr a chomisiynwyr i gydweithio â ni wrth i ni fynd ar drywydd y gwaith hwn
Ac yn olaf, byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn graddau i ymateb i ymgynghoriad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y mis hwn.