Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru
Pwy ydw i?
Gillian Baranski ydw i ac mae gen i'r fraint fawr o fod yn Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru.
Rwy'n dod yn wreiddiol o Gwm Rhondda, yn briod ag un ferch ac yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn.
Beth ydw i'n ei wneud?
Ymunais â Llywodraeth Cymru fel Prif Weithredwr CAFCASS Cymru ym mis Tachwedd 2010 cyn dod yn Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru ar 10 Hydref 2016.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
Rwy'n fargyfreithiwr â gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes ac ymunais â Gwasanaeth y Llysoedd Ynadon yn 1979 ym Mryste. Yn 1996, cefais fy mhenodi'n Glerc yr Ynadon i Ynadon Caerdydd ac ym mis Ebrill 2000, cefais fy mhenodi'n Brif Weithredwr yr Ynadon ar gyfer Pwyllgor Llysoedd Ynadon De Cymru.
Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, o 2005, fi oedd Cyfarwyddwr Troseddau'r Swyddfa Gartref i Gymru, gan weithio gyda phartneriaid fel yr heddlu ac awdurdodau lleol i leihau troseddau.
Cefais OBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2015 am wasanaethau i blant agored i niwed yng Nghymru.
Beth sy'n bwysig i fi
Ar lefel broffesiynol, rwy'n ymwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau a gaiff eu rheoleiddio a'u harolygu gennym ac i sicrhau bod AGC yn cynnig y lle gorau posibl i gydweithwyr ffynnu.
Ar lefel bersonol, mae fy nheulu yn bwysig iawn i mi, ac rwy'n mwynhau teithio hefyd. Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn dysgu sut i ymdopi â chi bach â phersonoliaeth enfawr.