Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Emma Lyddon

Gwneud y mwyaf o’r awyr agored i fagu hyder ac i ddysgu am fyd natur.

children's wellies

Cefndir

Yn Sir Gaerfyrddin, mae gwarchodwr plant cofrestredig wedi newid ffocws ei lleoliad o chwarae dan do i’r awyr agored; sy’n hyrwyddo creadigrwydd ac annibyniaeth ymysg byd natur, ac yn hybu mwy o chwarae dychmygus.

Beth sydd wedi newid?

Mae grantiau bach wedi helpu i droi drawsnewid ardal chwarae awyr agored. Roedd hyn yn cynnwys:

  • Beiciau, chwarae blêr, ‘tuff tray’, cegin fwd a wal-ddŵr
  • Offer dringo a thrawstiau cydbwysedd
  • Bwrdd archwilio gydag eitemau tymhorol naturiol a chwyddwydrau
  • Sleid, siglenni a si-so

Gall y plant hefyd archwilio hen ganŵ, pibellau rhydd, gwteri a theiars. Mae hyd yn oed llwyfan i annog chwarae rôl

Fe weithiodd teulu Emma gyda’i gilydd i adeiladu'r holl offer awyr agored eu hunain!

Mae astudiaeth Emma yn dangos sut y gall chwarae ymysg natur ddylanwadu’r gadarnhaol ar lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol y plant, yn ogystal â’u dysgu a'u datblygiad. Gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau tu allan, magodd y gwarchodwr chwilfrydedd a hyder yn y plant, gan eu hannog i werthfawrogi amgylchedd o oed ifanc.

Effaith

  • Ennyn parch a dealltwriaeth o fyd natur a'r amgylchedd
  • Rhoi’r cyfrifoldeb i'r plant drwy gynnig dewisiadau ac amrywiaeth
  • Datblygu sgiliau dychmygus a chwarae rôl ymysg natur
  • Defnyddio’r amgylchedd wrth fagu hyder plant
  • Dysgu am newidiadau tymhorol drwy chwarae tu allan ymysg natur