Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Ein Hymrwymiad i hybu a chynnal hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant

Ein prif gyfrifoldeb yw sicrhau bod y gyfraith mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael ei chynnal.

Cyhoeddwyd: 4 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Beth yw Hawliau Dynol?

Hawliau Dynol yw'r hawliau a rhyddid sylfaenol sy'n perthyn i bawb. 

Seilir Hawliau Dynol ar egwyddorion craidd megis urddas, tegwch, cydraddoldeb, parch ac ymreolaeth. Maent yn berthnasol i'n bywyd bob dydd gan amddiffyn ein rhyddid i reoli ein bywydau ein hunain, cymryd rhan yn effeithiol mewn penderfyniadau a wneir gan awdurdodau cyhoeddus sy'n cael effaith ar ein hawliau, a chael gwasanaethau teg a chydradd gan awdurdodau cyhoeddus. 

Mae'r cysyniad o gyfres o hawliau dynol sylfaenol yn un cymharol syml; ond, mae cyfraith ac arfer hawliau dynol yn gymhleth ac yn newid o hyd. Nid yw pob hawl yn ddiamod: mae terfynau ar rai ac mae rhai eraill yn amodol, a dylid eu rhoi ar waith mewn modd cymesur. Mae cyfreithiau, siarteri a chytundebau ychwanegol wedi cael eu datblygu hefyd, er enghraifft mewn perthynas â phobl o gefndiroedd amrywiol, plant, pobl ag anableddau, pobl sydd heb alluedd meddyliol a phobl hŷn. Mae nifer o'r rheini yn ail-ddatgan hawliau dynol sylfaenol fel y'u nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan gynnig dehongliad pellach neu faterion i'w hystyried. 

Fel corff sector cyhoeddus, mae gennym ddyletswyddau i barchu, amddiffyn a chyflawni'r hawliau sydd gan bobl o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 wrth gyflawni ein swyddogaethau. Mae gennym hefyd ddyletswyddau i ddileu gwahaniaethu, hwyluso cyfleoedd cyfartal a meithrin cydberthnasau da rhwng grwpiau gwahanol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Fel rheoleiddiwr, prif gyfrifoldeb Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw sicrhau bod y gyfraith mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael ei chynnal. Mae'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant wedi cael ei ddatblygu'n ofalus i adlewyrchu hawliau pobl a'u hymgorffori. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol; 'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014', Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016', 'Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010' a rheoliadau, codau ymarfer, canllawiau statudol a safonau gofynnol cenedlaethol. 

Mae AGC yn cyflawni ei swyddogaeth yn unol â'r fframwaith cyfreithiol hwn. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo hawliau dynol cyfreithiol pobl a'u cynnal drwy wneud y canlynol:

  • adolygu perfformiad swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol,
  • darparu porth cyntaf i hyrwyddo gofal da drwy ein proses gofrestru,
  • cynnal arolygiadau,
  • ceisio sicrhau bod darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yn cydymffurfio â gofynion statudol.

Rydym hefyd yn cydnabod bod cyfraith ac arfer hawliau dynol yn newid o hyd, a bod angen i'r newid hwn gael ei adlewyrchu yn y ffordd rydym yn gwneud ein gwaith. Rydym wedi datblygu fframweithiau arolygu yn seiliedig ar fframwaith canlyniadau cenedlaethol Llywodraeth Cymru i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a'u gofalwyr. Cefnogir y fframweithiau gan ganllawiau ar gyfer ein harolygwyr sy'n rhoi mwy o bwyslais ar berthnasedd a phwysigrwydd parchu amrywiaeth, hyrwyddo cydraddoldeb a diogelu hawliau dynol o fewn ein gwaith. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ond nid yw'n gyfyngedig iddo:

Dull arolygu sy'n seiliedig ar hawliau

Rydym yn defnyddio dull a seilir ar hawliau mewn arolygiadau drwy gydymffurfio â'r egwyddorion craidd canlynol:

  • Tegwch
  • Parch
  • Cydraddoldeb
  • Urddas
  • Ymreolaeth

Enghraifft o Arfer

  • Sicrhau bod proses gadarn a theg ar waith er mwyn ymdrin â phryderon a chwythu'r chwiban am ymddygiad staff
    • Egwyddor: Tegwch
    • Hawl Dynol: Hawl i dreial teg
  • Parchu teuluoedd amrywiol Osgoi gwadu'r hawl i ymweld â theulu heb reswm da
    • Egwyddor: Parch
    • Hawl Dynol: Hawl i barch at fywyd preifat a theuluol a gohebiaeth
  • Sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl ar sail oedran nac anabledd
    • Egwyddor: Cydraddoldeb
    • Hawl Dynol: Hawl i sicrhau na wahaniaethir yn eich erbyn wrth fwynhau hawliau dynol eraill
  • Sicrhau bod lefelau staffio'n ddigonol i gynnal urddas pawb
    • Egwyddor: Urddas
    • Hawl Dynol: Hawl i beidio â dioddef artaith a thriniaeth annynol a diraddiol
  • Cynnwys pobl mewn penderfyniadau ynghylch eu gofal
    • Egwyddor: Ymreolaeth ◦ Hawl Dynol: Hawl i barch at fywyd preifat

Ceir llinellau ymholi o fewn ein fframweithiau arolygu sy'n ystyried egwyddorion hawliau dynol gydag enghreifftiau o ymarferion da. Pan fydd y gofal yn annerbyniol, byddwn bob amser yn cymryd camau gweithredu. 

Ceir yr hawliau dynol sylfaenol sy'n fwyaf perthnasol i ofal cymdeithasol a gofal plant, fel y'u nodir yn y Ddeddf Hawliau Dynol, yn nhabl 1. Cafodd y rheini eu mapio'n fras yn erbyn y llinellau ymholi posibl yr ydym yn eu hystyried yn ystod arolygiad o dan y pedair thema arolygu ganlynol:

  • Llesiant
  • Gofal a Chymorth / Gofal a Datblygiad
  • Arwain a Rheoli
  • Amgylchedd (lle mae gwasanaethau yn seiliedig ar "leoliad")

Ar gyfer awdurdodau lleol, rydym yn cyfeirio at bedair prif egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015 wrth arolygu (llesiant, pobl, atal, partneriaeth) gyda llinellau ymholi sy'n berthnasol i gynnal hawliau dynol yn gwau drwy bob thema. 

Rydym yn ystyried sut mae awdurdodau lleol a darparwyr cofrestredig yn amddiffyn hawliau dynol, yn trin pobl yn deg, gyda pharch ac urddas; yn rhoi dewis i bobl a rheolaeth dros y gofal y maent yn ei gael ac yn gweithredu er mwyn sicrhau cydraddoldeb ar gyfer eu staff. 

Yn y bôn, mae gofal a chymorth yn amddiffyn hawl pobl i fywyd drwy sicrhau bod eu hanghenion corfforol mwyaf sylfaenol yn cael eu diwallu, megis bwyta, cymryd meddyginiaeth, codi yn y bore a mynd i'r gwely yn y nos. Ond, i'r rhai sydd eu hangen, a'r rhai y maent yn rhannu eu bywydau â nhw, bydd y gallu i ddod o hyd i ofal a chymorth ac i drefnu'r rheini yn pennu a fyddent yn gallu mwynhau nifer o hawliau dynol pwysig eraill hefyd. 

Mae hawliau dynol yn gymwys i staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal plant, er enghraifft, yr hawl i chwythu'r chwiban am ofal gwael. Hawliau Dynol a chysylltiadau â llinellau ymholi wrth arolygu.

Hawliau Dynol a chysylltiadau â llinellau ymholi wrth arolygu

Mae'r wybodaeth isod yn crynhoi rhai o'r meysydd allweddol yr ydym yn eu hystyried wrth arolygu gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau oedolion a phlant a gwasanaethau gofal plant a chwarae awdurdodau lleol. 

Defnyddir y term 'pobl' i gyfeirio at blant, pobl ifanc ac oedolion.

Erthygl 2: Hawl i fywyd

  • pobl yn gallu gwneud y pethau sy'n bwysig iddynt
  • pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch

Erthygl 3: Rhyddid rhag artaith a thriniaeth annynol a diraddiol

  • pobl yn cyfrannu at y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, neu yn cael rhywun a all wneud hynny drostynt
  • cynllun cywir a chyfredol sy'n diwallu anghenion yr unigolyn

Erthygl 5: Hawl i ryddid a diogelwch

  • pobl yn cael gwasanaeth sy'n ystyried eu dymuniadau, dyheadau a chanlyniadau personol
  • pobl yn cael codi eu llais

Erthygl 6: Hawl i dreial teg

  • pobl yn teimlo'n ddiogel, yn hapus a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi
  • plant yn datblygu, yn dysgu ac yn dod yn annibynnol
  • ymarferwyr yn hybu chwarae, dysgu a datblygiad plant, ac yn diwallu eu hanghenion unigol

Erthygl 8: Hawl i barch at eich bywyd preifat a theuluol, cartref a gohebiaeth

  • ymarferwyr yn cadw’r plant yn ddiogel ac yn iach
  • hawl pobl i barhau i fyw yn eu tai eu hunain yn cael ei chynnal
  • pobl yn cael eu cefnogi i gynnal cydberthnasau teuluol cyffredin

Erthygl 9: Hawl i ryddid meddwl, cred a chrefydd

  • pobl yn cael eu cefnogi gan wasanaeth sy'n darparu nifer briodol o staff addas er mwyn cyflawni canlyniadau personol yr unigolyn

Erthygl 10: Hawl i ryddid mynegiant

  • pobl yn ddiogel ac yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod
  • pobl yn cael eu cefnogi i gynnal defodau crefyddol megis gweddi, deiet neu'r cyfle i gymryd rhan mewn gwyliau crefyddol.

Erthygl 12: Hawl i briodi a chychwyn teulu

  • pobl yn cael eu cefnogi i gael gafael ar gymorth cyfathrebu neu wasanaeth eirioli annibynnol.
  • pobl yn cael eu cefnogi i chwilio am bartner a byw gyda'r person hwnnw

Erthygl 14: Hawl i ddiogelwch rhag gwahaniaethu

  • pobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth yn cael eu cefnogi i leisio pryderon am y gwasanaeth drwy weithdrefnau chwythu’r chwiban.

Protocol 1, Erthygl 2: Hawl i addysg

  • pobl yn cael eu hamddiffyn rhag risg o heintiau drwy arferion hylan
  • iechyd pobl yn cael ei hybu drwy systemau diogel ar gyfer rheoli meddyginiaethau
  • pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y gwasanaeth er mwyn gwneud dewis gwybodus
  • pobl yn gallu gwneud cwynion drwy bolisi cwynion hygyrch a bod tystiolaeth o ddysgu o gwynion
  • canlyniadau personol pobl yn cael eu hyrwyddo oherwydd bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn lleoliad ac amgylchedd â chyfleusterau a, lle y bo hynny'n berthnasol, offer sy'n hybu llesiant ac yn lleihau risgiau

Perthynas â Deddf Cydraddoldeb a Chonfensiynau eraill y Cenhedloedd Unedig

Yn ogystal â'r hawliau dynol cyffredinol a nodir uchod, mae'r rhai canlynol hefyd yn gymwys i'n gwaith:

Deddf Cydraddoldeb

Wrth gynnal arolygiad rydym yn ystyried sut mae awdurdodau/darparwyr lleol yn ystyried y nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas neu bartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

  • Yr hawl i blentyndod (gan gynnwys diogelwch rhag niwed a hawl i hamdden, chwarae, diwylliant ac addysg).
  • Yr hawl i fod yn iach (gan gynnwys y gallu i gael gofal meddygol).
  • Yr hawl i gael eich trin yn deg (gan gynnwys newid cyfreithiau ac arferion sy'n annheg i blant yn ogystal â gwahaniaethu yn erbyn plant, er enghraifft, ar sail hil, rhywedd, crefydd neu anabledd).
  • Yr hawl i gael eich clywed (gan gynnwys ystyried safbwyntiau plant).

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Mae'r confensiwn hwn yn cynnwys hawliau o ran y canlynol:

  • Hygyrchedd
  • Byw yn annibynnol a chael eich cynnwys yn y gymuned
  • Symudedd personol
  • Gallu cael gafael ar wybodaeth
  • Gwasanaethau iechyd ac adsefydlu cyfartal

Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn

Mae 18 o egwyddorion, wedi'u grwpio o dan y pum thema isod

Ceir rhagor o wybodaeth am ein dull sy'n seiliedig ar hawliau o adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac o arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yn ein Codau Ymarfer perthnasol.

  • Annibyniaeth
  • Cyfranogi
  • Gofal
  • Hunangyflawniad
  • Urddas