Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 20 Tachwedd 2024
  • Newyddion

Ein canfyddiadau o wiriad sicrwydd o Wasanaethau Oedolion yn y Gymuned yng Nghastell Nedd Port Talbot

Gwnaethom gynnal y gwiriad sicrwydd hwn rhwng 17 a 19 Medi 2024.

Canolbwyntiodd y gwiriad sicrwydd hwn ar wasanaethau oedolion ac adolygwyd perfformiad Castell Nedd Port Talbot wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau yn unol â deddfwriaeth.

Canfyddiadau

Nododd yr arolygwyr fod yr arweinwyr yn hygyrch, yn agos atoch ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r ymarferwyr, gan feithrin amgylchedd cefnogol a chysylltiedig.

Ers 2021, mae ymdrechion wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol i wella gwasanaethau cymorth cynnar ac atal. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys sefydlu mwy o hybiau cymunedol, cynyddu mynediad i dechnolegau digidol ac ailstrwythuro timau i wneud cymorth yn fwy hygyrch.

Mae'r awdurdod lleol yn ymateb i'r rhan fwyaf o ymholiadau diogelu mewn modd amserol a chymesur.

Mae'r awdurdod lleol yn gweithio gydag iechyd a phartneriaid i gael cyfarfodydd rhithwir wythnosol. Dengys hyn bartneriaeth effeithiol ar waith, yn meithrin dealltwriaeth a rennir a chydweithredu â'i gilydd ar draws gwasanaethau. Gan gynnwys y practisau meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol, sefydliadau trydydd sector, a therapyddion iechyd galwedigaethol, mae'n sicrhau bod yr adnoddau yn alinio ag anghenion y bobl. Mae'r dull cydweithredol hwn yn gwella cefnogaeth gymunedol ac yn hyrwyddo arloesedd ac addasu sefydliadol.

Mae angen datblygu'r partneriaethau strategol, rhanbarthol a gweithredol ymhellach i ddiwallu anghenion y boblogaeth leol mewn modd cydweithredol.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd yn ein llythyr a chymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r meysydd hyn a'u gwella. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch adolygu perfformiad parhaus gyda'r awdurdod lleol.

Lle y bo'n berthnasol, rydym yn disgwyl i'r awdurdod lleol rannu'r arferion cadarnhaol a nodwyd ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd a helpu i lywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau statudol ledled Cymru.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.

Llythyr gwiriad sicrwydd awdurdod lleol: Gwasanaethau oedolion Castell-nedd Port Talbot