Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Defnyddio’r ardal allanol i ddatblygu dychymyg a chwarae rôl

Mae ymarferwyr yn ymgymryd ag ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol, sy’n helpu datblygu eu hymagwedd.

Plant yn rhedeg o dan barasiwt

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Ddydd Corwen yn feithrinfa fach ddwyieithog mewn ardal wledig yng Ngogledd Cymru. Mae’n cyflwyno gofal o ansawdd uchel mewn amgylchedd sy’n galluogi plant i fod yn chwilfrydig a hyderus yn eu chwarae. Mae’n ysbrydoli plant i ymchwilio a gwneud darganfyddiadau yn ei lleoliad hapus, diogel, anogol ac iach. Mae ymarferwyr yn gofalu am ryw 58 o blant i gyd, a 30 o blant rhwng 6 mis a 4 oed bob dydd, ar gyfartaledd. 

Mae’r lleoliad yn darparu Addysg Gynnar i lond llaw o blant am ddau dymor, ac yn cyflwyno sesiynau rheolaidd ysgol goedwig yn y goedwig leol a ger afon gyfagos. Mae’n dod â chwilfrydedd i fywydau’r plant trwy ddarparu cyfleoedd iddynt chwarae ag adnoddau naturiol. Mae’n trefnu gwahoddiadau dyddiol i ddysgu a ‘symbyliadau’ sydd wedi’u cynllunio i gyffroi a symbylu chwilfrydedd plant i ddysgu am y byd o’u cwmpas. Mae ymarferwyr yn ymgymryd ag ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol, sy’n helpu datblygu eu hymagwedd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae ymarferwyr yn credu’n gadarn fod chwarae yn yr awyr agored yn cynnig cyfleoedd dysgu newydd a chyffrous ar gyfer plant. Gall llawer o blant reoli eu hymddygiad a’u hemosiynau’n well yn yr awyr agored gan fod eu system imiwnedd hefyd yn cael hwb o fod yn yr awyr iach. Mae ymarferwyr yn annog y plant i herio’u hunain a phrofi’r byd o’u cwmpas. Maent yn caniatáu i’r plant fynd yn fwdlyd, a chymryd risgiau priodol wrth iddynt ddringo, datblygu creadigrwydd ac adeiladu ag ystod o adnoddau. 

Mae bod yn yr awyr agored yn galluogi’r plant i symud yn fwy rhydd. Maent yn datblygu ymwybyddiaeth o reoli risgiau a synnwyr gwell o ymwybyddiaeth ofodol, yn ogystal â hunanhyder, annibyniaeth a hunan-barch cynyddol. Mae’r plant yn meddu ar fedrau echddygol bras datblygedig yn sgil cael cyfleoedd i greu eu cyrsiau ymosod eu hunain lle mae angen iddynt ddringo a chynnal eu balans. Maent wrth eu bodd yn treulio cyfnodau hir yn chwarae ar y beiciau balans a’r treiciau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dechreuodd ymarferwyr fuddsoddi yn yr ardaloedd awyr agored yn 2015 pan gafwyd cyngor gan gydweithiwr o sefydliad cymorth ynglŷn â sut gallent eu datblygu. Roedd hi o’r farn fod gofod awyr agored gwych yn y lleoliad ond nad oedd ymarferwyr yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ohono. 

Mae’r tair ystafell chwarae bellach yn cynnwys mynediad uniongyrchol i’w hardaloedd awyr agored eu hunain, ac mae plant yn treulio mwy o amser yn yr awyr agored nag y maent dan do. Yn 2018, prynodd y lleoliad lecyn bach o dir drws nesaf i’r feithrinfa gan nad oedd glaswellt yn yr un o’r ardaloedd awyr agored, ac roedd ymarferwyr eisiau darparu profiad hollol wahanol ar gyfer y plant. Mae gan bob un o’r plant ddillad glaw un darn a welis ac fe gaiff y rhain eu golchi bob dydd. Trwy gael y dillad priodol, gall y lleoliad fanteisio ar yr awyr agored ym mhob tywydd. Mae staff yn ymwybodol y bydd y rhan fwyaf o’u diwrnod yn cael ei dreulio yn yr awyr agored, felly maent yn gwybod i wisgo’n briodol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Rhoddir cyfle i blant greu eu cyrsiau ymosod eu hunain ar y cae a defnyddir pibellau mawr plastig fel llithrennau. Mae canŵ go iawn yn galluogi’r plant i ddefnyddio’u dychymyg ac mae cegin fwd, a phabell wedi’i chreu â llaw, sy’n hynod effeithiol wrth ysgogi chwarae rôl. Mae digonedd o gyfleoedd i balu yn y mwd a chwarae â rhisgl a gwahanol gerrig. I gael mynediad i’r ardal benodol hon, rhaid i’r plant ddringo i fyny dros rwystrau y mae’n rhaid iddynt eu gosod mewn lleoliad i’w galluogi i ddringo’n ddiogel. Mae’r ffrâm ddringo yn boblogaidd hefyd, fel y mae’r gweithgaredd arllwys i’r hambwrdd twff.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymarferwyr yn addysgu staff newydd a rhieni ynglŷn â pham mae chwarae yn yr awyr agored mor bwysig, ac mae’r ddarpariaeth chwarae yn yr awyr agored yn cynnig cyfle i bob un o’r plant ryngweithio’n rhydd â’r canlynol, neu’u profi: 

  • Plant eraill 
  • Y byd naturiol – mwd, dŵr, chwilod, pryfed genwair 
  • Darnau rhydd – brigau, cerrig, blychau cardfwrdd, cretiau, riliau cebl, ac ati. 
  • Yr elfennau 
  • Heriau ac ansicrwydd 
  • Symud 
  • Chwarae gwyllt 
  • Y synhwyrau, gwrando ar yr adar a blasu’r glaw