Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Defnydd effeithiol o’r amgylchedd awyr agored i hybu lles a dysgu o ansawdd uchel

Gan ddefnyddio diddordebau a syniadau’r plant, mae ymarferwyr wedi datblygu man lle gall plant fod yn greadigol gyda natur gan ddefnyddio mwd, clai, planhigion a blodau i greu celf neu fwynhau chwarae archwiliadol syml.

children planting with teacher

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae meithrinfa Little Friends Nursery yn lleoliad gofal plant sy’n cael ei redeg yn breifat, yn ddarparwr addysg y blynyddoedd cynnar ac yn lleoliad Dechrau’n Deg nas cynhelir. Mae wedi’i leoli yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ffynnon Taf, Caerdydd ac mae’n darparu gofal plant ac addysg o ansawdd uchel sy’n cefnogi datblygiad plant mewn amgylchedd diogel ac ysgogol. Mae’n cefnogi plant i ddysgu trwy chwarae ac yn cynnal partneriaeth agos â rhieni a gofalwyr. 

Gweledigaeth y lleoliad yw gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i ddatblygu a chefnogi pob plentyn i gyrraedd eu llawn botensial. Mae’n cynnig ystod o brofiadau difyr ac adnoddau ysgogol i gefnogi eu chwarae a’u dysgu.   

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Nododd pandemig COVID-19 fod angen i bawb dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Agorodd ymarferwyr y lleoliad newydd ym mis Tachwedd 2020, a oedd yng nghanol y pandemig. Gydag adeilad pwrpasol, roedd y tu mewn yn ddiogel ac yn sicr. Darparodd hyn gymhelliant i ganolbwyntio sylw ar greu hardd hyfryd, naturiol wedi’i sbarduno gan chwilfrydedd i’r plant ei mwynhau. 

Sylwodd ymarferwyr fod llawer o’r ardd a etifeddwyd (hen fuarth yr ysgol) yn lloriau caled, llawer o goncrit a hen fframiau pren ar gyfer pyllau tywod ac ati. Aethant ati â dril niwmatig a chreu gwelyau blodau naturiol o amgylch y buarth. Yna, gosodwyd lloriau diogelwch i ganiatáu i’r plant redeg yn rhydd heb grafu eu croen! 

Ar ôl treulio mwyafrif eu hamser y tu allan, roedd yn galluogi ymarferwyr i nodi angen am ardal o ansawdd da â chysgod y gallai’r plant ei defnyddio fel canolfan wrth chwarae yn yr awyr agored. Fe benderfynon nhw y byddai buddsoddi mewn ystafell ddosbarth awyr agored yn caniatáu i blant nad ydynt yn hoff iawn o’r gwynt a’r glaw gael eu cysgodi’n briodol wrth elwa ar fanteision chwarae naturiol ac awyr iach.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ardal yr ardd yn parhau i ddatblygu dros amser. Mae ymarferwyr wedi datblygu rhandir mawr fel estyniad i’r gwelyau blodau ac yn tyfu eu ffrwythau a llysiau eu hunain, yn ogystal ag ystod o goed, blodau, perlysiau, sbeisys ac ardal goedwigaeth. Mae’r plant yn dysgu sut i baratoi a choginio bwydydd gwahanol, archwilio blas a dysgu am holl fanteision iechyd cynhwysion naturiol. 

Mae gan ymarferwyr ardal adeiladu fawr sy’n cynnwys rhisgl a thywod, sydd hefyd yn cynnwys adnoddau fel peiriannau cloddio mecanyddol, ysgolion, trawstiau, basgedi, cytiau a gorsafoedd offer i’r plant gael profiad ohonynt.  

Mae ymarferwyr yn darparu llawer o gyfleoedd i fanteisio ar feiciau, sgwteri a cheir i’r plant eu harchwilio’n rhwydd, yn ogystal â ffrâm ddringo, trawstiau cydbwyso ac ardal glyd. 

Ers hynny, mae’r ystafell ddosbarth awyr agored wedi datblygu i fod yn fwy o fan mynegiannol yn hytrach nag yn lloches yn unig. Gan ddefnyddio diddordebau a syniadau’r plant, mae ymarferwyr wedi datblygu man lle gall plant fod yn greadigol gyda natur gan ddefnyddio mwd, clai, planhigion a blodau i greu celf neu fwynhau chwarae archwiliadol syml. Mae ymarferwyr yn parhau i ddatblygu ac addasu’r ardal hon yn unol â diddordebau’r plant. Ar hyn o bryd, maent yn datblygu ardal gerddorol, gan gynnwys llawysgrif gerddoriaeth wrth i’r plant ddysgu i adnabod nodau wrth greu eu hofferynnau a’u seiniau eu hunain o fyd natur. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau plant?

Mae’r arfer wedi gwella’n sylweddol ym mhob adroddiad arolygu gydag arolygiadau SSTEW, Sicrhau Ansawdd ac AGC yn rhoi adborth rhagorol ym mhob maes. Mae staff wedi’u cymell i wella’r ddarpariaeth trwy roi’r cwricwlwm newydd ar waith ag angerdd a gofal. 

Mae’r lleoliad yn cynnig ardal ryfeddol o chwilfrydedd lle gallent fentro’n briodol mewn ffyrdd diddiwedd gyda chefnogaeth ac anogaeth gan staff. Gyda chymorth gan staff, mae’r plant yn defnyddio ystod eang o offer ac yn magu hyder wrth iddynt chwarae ar y ‘llwyfan’ bendigedig yn yr ystafell ddosbarth awyr agored. 

Mae ymarferwyr yn cynnig chwarae awyr agored di-dor i weddu i anghenion a gofynion y plant eu hunain. Maent yn mwynhau cyfleoedd i blant fod yn yr awyr agored ac yn mwynhau’r awyr iach a rhyfeddodau natur trwy gydol eu cyfnod yn y lleoliad.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad wedi croesawu ymweliadau gan ymarferwyr o leoliadau eraill i weld sut mae wedi datblygu’r amgylchedd a’r ardaloedd awyr agored yn benodol. Mae ymarferwyr yn cydweithio’n agos ag ymgynghorydd y Blynyddoedd Cynnar i hwyluso’r ymweliadau arfer dda hyn.