Deddfwriaeth
Yr hyn y mae’n rhaid i ddarparwr gofal cofrestredig ei wneud yn ôl y gyfraith er mwyn darparu gwasanaeth gofal yng Nghymru.
Rydym yn arolygu darparwyr gwasanaethau gofal yn erbyn gofynion Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Dolen allanol), Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Dolen allanol), Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Dolen allanol), Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Dolen allanol) a'u rheoliadau cysylltiedig.
Yma, gallwch ddod o hyd i ddolenni i'r rheoliadau, canllawiau statudol neu Safonau Gofynnol Cenedlaethol perthnasol ar gyfer pob gwasanaeth rydym yn ei reoleiddio ac yn ei arolygu. Mae'r rhain yn pennu'r safonau gofal y dylai darparwyr gwasanaethau eu cyrraedd a cheisio rhagori arnynt wrth ddarparu eu gwasanaeth i'r bobl sy'n ei ddefnyddio.